Mae Andy Dunbobbin sef Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru yn cynnal cymhorthfa gyhoeddus yn llyfrgell y dref yng Nglaslyn, Stryd y Llan, ar gyfer trigolion Porthmadog a’r cyffiniau, o 2-4pm ar 4 Rhagfyr. Mae’r digwyddiad yn rhan bwysig o ymgyrch y CHTh i ddod â phlismona yn agosach at bobl y rhanbarth. Bydd y gymhorthfa yn galluogi pobl leol drafod plismona yn eu cymunedau a chodi unrhyw bryderon neu sylwadau sydd ganddyn nhw efo’r Comisiynydd a chynrychiolwyr Heddlu Gogledd Cymru.
Mae gan y rhai sy’n dod 20 munud i siarad yn bersonol efo’r Comisiynydd, a fydd yng nghwmni cynrychiolwyr o’i swyddfa a Heddlu Gogledd Cymru. Bydd y Comisiynydd, swyddogion a staff yn gallu darparu cyfeirio pellach os gall mater gael ei drin yn fwy priodol gan asiantaethau a sefydliadau eraill. Er mwyn sicrhau preifatrwydd, ni fydd aelodau o’r cyhoedd yn bresennol yn ystod y cyfarfod.
Sut mae’r cymorthfeydd yn gweithio
Bydd y CHTh yng nghwmni staff o'i dîm ym Mhorthmadog, a bydd Heddlu Gogledd Cymru yn helpu hwyluso'r cyfarfodydd a chymryd nodiadau os oes angen.
Bydd y cymorthfeydd yn cael eu cynnal drwy apwyntiad yn unig er mwyn sicrhau bod y materion sy'n cael eu trafod yn ymwneud â phlismona, trosedd neu ddiogelwch cymunedol, a sicrhau bod y CHTh yn cael gwybod am yr hyn sydd o dan sylw cyn y cyfarfod.
Er nad yw'r Comisiynydd yn gallu ymyrryd mewn materion gweithredol, mae'n croesawu adborth pobl ar sut mae Gogledd Cymru yn cael ei blismona.
Ni fydd CHTh yn gallu ystyried cwynion am swyddogion heddlu, aelodau o staff, SCCH a swyddogion gwirfoddol. Rhaid i hyn fynd drwy sianeli sydd wedi eu sefydlu yn barod. Mae cyngor pellach ar y system gwyno ar wefan SCHTh yma.
Sut i archebu lle
Os hoffech archebu lle am 20 munud gydag Andy Dunbobbin, cysylltwch â swyddfa CHTh gan roi eich enw, gwybodaeth cyswllt a'r hyn yr hoffech drafod yn ystod y cyfarfod, drwy:
E-bost: opcc@northwales.police.uk
Ffôn: 01492 805486
Post: Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Pencadlys yr Heddlu, Glan y Don, Bae Colwyn, LL29 8AW
Nodwch, mae'r apwyntiadau yn gweithio ar sail y cyntaf i'r felin, ac ni allwn warantu lle i bawb. Os bydd sesiwn yn llawn, rhoddir gwybodaeth am sesiynau eraill. |