Cysylltu â ni
Cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru
Gallwch hysbysu am droseddau digwyddiadau ar-lein drwy ein gwefan.
Mewn argyfwng
Os ydych angen cymorth ar frys dylech ffonio 999. Rydym yn anelu ateb o fewn 10 eiliad.
Ffoniwch 999 os:
- yw trosedd ddifrifol ar waith neu newydd gael ei chyflawni
- yw rhywun mewn perygl neu niwed uniongyrchol
- yw eiddo mewn perygl o gael ei ddifrodi
- yw aflonyddwch difrifol i'r cyhoedd yn debygol
Os ydych yn fyddar neu'n drwm eich clyw, defnyddiwch ein gwasanaeth ffôn testun 18000.
Neu tecstiwch ni ar 999 os ydych wedi cofrestru'n barod gyda'r gwasanaeth brys SMS.
Galwadau 999 tawel
Os ydych mewn perygl ond yn methu siarad ar y ffôn, dylech ffonio 999 o hyd, yna dilynwch y cyfarwyddiadau hyn gan ddibynnu os ydych yn ffonio o ffôn symudol neu linell dir.
Os nad yw'n argyfwng neu'n ymholiad cyffredinol
Os nad oes angen cymorth brys, neu ag ymholiad cyffredinol, dylech ffonio 101 (ein rhif difrys).
Os ydych yn fyddar neu'n drwm eich clyw, defnyddiwch ein gwasanaeth ffôn testun 18001 101.