Cwestiynau Cyffredin
Ar y dudalen hon cewch rai o'n cwestiynau mwyaf cyffredin.
Pa wybodaeth bersonol fyddwch ei angen?Os ydych eisiau cofrestru i Rybudd Cymunedol Gogledd Cymru, mae angen i chi gwblhau ffurflen gofrestru fer ar-lein. Gwnaiff hyn ein cynorthwyo ni i deilwra eich rhybuddion. Byddwch angen cofrestru gyda chyfeiriad e-bost neu os nad oes gennych e-bost gallwch gofrestru gan ddefnyddio eich rhif ffôn.
A wnewch chi rannu fy ngwybodaeth gydag asiantaethau eraill?Yn ystod y broses gofrestru ac yn eich maes 'gweinyddu' mae gennych y cyfle i adolygu a dewis darparwyr gwybodaeth trwyddedig ychwanegol. Mae'r rhain yn cynnwys yr Heddlu, y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Tân ac Achub, Gwarchod y Gymdogaeth a'ch Awdurdod Lleol. Byddant, os cânt eu hawdurdodi gennych chi, yn gallu gweld eich data ac anfon negeseuon atoch. Byddwch yn ymwybodol nad yw'r holl ddarparwyr gwybodaeth a restrir yn defnyddio'r system ar hyn o bryd, ond cewch eich hysbysu wrth iddynt gofrestru. Gallwch gael gwared ar unrhyw ddarparwr gwybodaeth ar unrhyw adeg.
A wnewch chi anfon sbam ataf?Na. Yr unig gyfathrebu a wnawn gyda chi fydd drwy e-bost Rhybudd Cymunedol Gogledd Cymru ac ymgynghoriad achlysurol drwy e-bost.
A allaf ganslo fy rhybuddion / tanysgrifiad?Gallwch optio allan o Rybudd Cymunedol Gogledd Cymru unrhyw dro neu ddiweddaru eich gosodiadau er mwyn cyflunio'r mathau o negeseuon rydych ei eisiau i dderbyn a chael gwared nad ydych eu heisiau. Mae gan negeseuon e-bost gan Rybudd Cymunedol Gogledd Cymru ddolen ar y gwaelod i 'newid gosodiadau'. Cliciwch ar y ddolen hon i adolygu eich gosodiadau a'u diweddaru nhw.
Pam ydych yn gofyn am fy rhif ffôn a ffôn symudol?Mae Rhybudd Cymunedol Gogledd Cymru yn caniatáu i ni anfon negeseuon drwy e-bost, neges destun neu neges llais. Mae fwyaf cost effeithiol i ni anfon negeseuon drwy e-bost. Felly os oes gennych gyfeiriad e-bost, hwn fydd y dull diofyn o gyfathrebu. Fodd bynnag, os oes neges frys mae angen i ni eich rhybuddio amdani, yna gallwn yna anfon neges destun neu neges llais.
Sut wnaf i wybod fod negeseuon e-bost gan Heddlu Gogledd Cymru?Mae holl negeseuon Rhybudd Cymunedol Gogledd Cymru yn cael eu hanfon o fewn y system Rhybudd Cymdogaethau diogel. Maent wedi'u brandio'n glir fel yn dod o Heddlu Gogledd Cymru.
A allaf ateb yr e-bost?Gallwch, rydym yn croesawu eich sylwadau a'ch barn. Gwnaiff clicio ar y ddolen 'ateb' o fewn y neges anfon eich ateb at yr un wnaeth anfon y neges a'ch tîm plismona lleol.
A ydych yn darllen yr atebion e-bost?Ydyn. Bydd eich tîm plismona lleol yn derbyn a darllen eich holl negeseuon e-bost. Byddwch yn ymwybodol na wnawn ateb weithiau os mai ond gwybodaeth rydych angen ei drosglwyddo i ni at ein sylw. Hyd yn oed os nad ydych yn clywed gennym yn uniongyrchol, byddwch yn dawel eich meddwl y bydd popeth yr anfonwch atom yn cael ei weithredu neu'i adolygu.
A yw pobl eraill yn gweld fy nghyfeiriad e-bost?Nac ydyn. Ni wnaiff tanysgrifwyr eraill weld eich manylion.
A allaf flaenyrru neu argraffu negeseuon Rhybudd Cymunedol Gogledd Cymru a'u rhannu gyda ffrindiau, neu a ydyw'n gyfrinachol?Nid yw rhybuddion yn gyfrinachol ac rydym yn croesawu rhannu gwybodaeth. Rydym yn cynghori eich bod yn dileu unrhyw fanylion personol nad ydych yn dymuno eu rhannu, fel cyfeiriadau e-bost. Gall ffrindiau a theulu gofrestru ar gyfer Rhybudd Cymunedol Gogledd Cymru drwy fynd ar www.NorthWalesCommunityAlert.co.uk neu www.RhybuddCymunedolGogleddCymru.co.uk ar gyfer y wefan Gymraeg.
A allaf newid fy manylion cyswllt os wyf yn symud tŷ neu'n newid fy nghyfeiriad e-bost?Gallwch. Defnyddiwch y dolenni ar waelod Rhybudd Cymunedol Gogledd Cymru, neu ewch i'ch cyfrif ar wefan Rhybudd Cymunedol Gogledd Cymru.
A ydy Rhybudd Cymunedol Gogledd Cymru yn costio unrhyw beth i mi?Nac ydy. Mae tanysgrifio i Rybudd Cymunedol Gogledd Cymru am ddim. Ni chodir costau a ffioedd eraill.
A ydy hyn yn disodli Gwarchod y Gymdogaeth?Nac ydy, nid ydy hyn yn disodli unrhyw gynllun Gwarchod y Gymdogaeth. Rydym yn gobeithio y bydd yn ategu at gynlluniau a mentrau presennol. Mae Rhybudd Cymunedol Gogledd Cymru yn gysylltiedig â'r system 'Ein Gwyliadwriaeth' Gwarchod y Gymdogaeth genedlaethol. Bydd yn gwella'r ffordd y mae'r heddlu a chynlluniau Gwyliadwriaeth yn gallu cyfathrebu a chynorthwyo ei gilydd.
A allaf hysbysu am drosedd dros e-bost?Na. Nid bwriad Rhybudd Cymunedol Gogledd Cymru ydy derbyn gwybodaeth i hysbysu am droseddau. Gallwch hysbysu am drosedd drwy ffonio 101. Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser.
A allaf ddefnyddio Rhybudd Cymunedol Gogledd Cymru mewn argyfwng?Na allwch. Dylech ffonio 999 mewn argyfwng bob amser. Argyfwng yw pan mae perygl o anaf difrifol, perygl o ddifrod difrifol i eiddo, lle rydych yn amau bod trosedd ar waith neu os oes digwyddiad difrifol sydd angen presenoldeb yr heddlu ar unwaith. Ffoniwch 101 am faterion nad ydynt yn rhai brys.
A yw hyn yn disodli galwadau ffôn?Nac ydy. Os ydych angen siarad â Heddlu Gogledd Cymru, cysylltwch â ni ar 101. Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser.
A fydd fy nata yn cael ei storio'n ddiogel?Bydd. Mae Rhybudd Cymunedol Gogledd Cymru yn cael ei yrru gan system Rhybudd Cymdogaeth sydd wedi'i achredu i safon diogelwch y Llywodraeth: Cyber Essentials Plus. Mae hyn yn golygu bod y system gyfan yn cael ei archwilio (profi) yn rheolaidd er mwyn sicrhau bod holl ragofalon angenrheidiol wedi'u cymryd i ddiogelu'ch data. Mae hyn yn cynnwys yr heddlu yn fetio staff, amgryptio'r holl ddata, patsio meddalwedd a defnyddio waliau tân cymeradwy'r Llywodraeth.