Cymorth

Cael trafferth cofrestru gyda Rhybudd Cymunedol Gogledd Cymru?

Y ffurflen gofrestru sydyn ar y dudalen hafan

  • Y ffurflen gofrestru sydyn ar y dudalen flaen yw'r ffordd gyntaf a symlaf o gofrestru. Ond efallai na fydd yn gweithio gyda rhai porwyr hŷn y rhyngrwyd.
  • Cyflwynwch y ffurflen drwy glicio "Ymuno" ar waelod y ffurflen.
  • Os nad yw rhywbeth yn digwydd, gwiriwch fod y blychau'n cael eu llenwi, a'ch bod wedi ticio'r blwch ticio telerau ac amodau. Gwnaiff y blychau droi'n goch i'ch atgoffa chi i'w llenwi.
  • Byddwch angen darllen a chytuno i'r telerau a'r amodau drwy dicio'r blwch a ddarperir.
  • Os ydych yn anghofio ticio'r blwch amodau a'r telerau, bydd y geiriau'n troi'n goch i'ch atgoffa chi i'w dicio.
  • O dro i dro (ar ffôn symudol neu lechen fel arfer), efallai y gofynnir i chi nodi rhai lluniau o oleuadau traffig, beiciau modur neu fwyd. Mae hyn i brofi eich bod yn unigolyn go iawn yn cofrestru ac nid yn gyfrifiadur. Bydd o gymorth i atal sbam.

Tudalen 2 o'r ffurflen gofrestru sydyn

  • Byddwch yn derbyn e-bost gyda chod 6 rhif er mwyn cadarnhau eich cofrestriad. Casglwch y cod hwn o'ch negeseuon e-bost (sicrhewch eich bod yn gwirio eich ffolderi sbwriel a sbam rhag ofn) ac yna'i roi yn yr ail dudalen.
  • Pan fyddwch wedi rhoi eich cod gwirio, rhaid i chi roi cyfeiriad – un ai'r o'r rhestr yn y gwymplen, neu drwy glicio "nid yw fy nghyfeiriad yma" fel y gallwn nodi lle rydych yn byw a rhoi'r newyddion i chi sy'n berthnasol i'ch ardal chi.
  • Unwaith rydych wedi cwblhau llenwi'r ffurflen, rhaid i chi glicio'r botwm "Cwblhau Cofrestru". Mae hwn yn fotwm glas ar waelod y ffurflen.

Wedi cofrestru'n barod?

Mae rhai pobl yn cael neges i ddweud eu bod eisoes wedi'u cofrestru ar y rhwydwaith.

Mae Rhybudd Cymunedol Gogledd Cymru yn un o nifer o wefannau tebyg sy'n defnyddio'r un system Rhybudd Cymdogaethau. Mae hyn yn cynnwys Gwarchod y Gymdogaeth (Ein Gwyliadwriaeth) a Rhybudd Action Fraud. Cyhyd â'ch bod wedi cofrestru gydag un o'r gwefannau hyn, byddwch yn derbyn negeseuon sy'n berthnasol i'ch ardal. Yn anffodus nid yw eich enw defnyddiwr a'ch cyfrinair yn gweithio ledled gwahanol wefannau – mae angen i chi fewngofnodi i'r wefan y gwnaethoch ymuno â hi'n wreiddiol. Cewch restr lawn o'r holl ardaloedd ar y wefan Rhybudd Cymdogaethau. Os ydych yn cael problemau'n mewngofnodi i un o'r gwefannau eraill, cysylltwch â VISAV (y cwmni sy'n darparu'r system) drwy e-bostio support@neighbourhoodalert.co.uk neu ffonio 0115 924 5517.

Heb dderbyn eich e-bost cadarnhad?

Anfonir yr e-bost o gyfeiriad e-bost "alert@neighbourhoodalert.co.uk" yn hytrach na Rhybudd Cymunedol Gogledd Cymru.

Efallai bydd eich darparwr e-bost wedi marcio'r e-bost fel sbam (e-bost diangen). Os oes gennych ffolder sbam neu ffolder sbwriel, ewch i weld os ydy'r e-bost yno. Efallai eich bod hefyd angen dweud wrth eich system e-bost eich bod eisiau derbyn y negeseuon e-bost hyn.

Os, ar ôl pum munud, nad ydy'r e-bost wedi ymddangos yn eich blwch, ffolderi sbwriel neu sbam, e-bostiwch support@neighbourhoodalert.co.uk neu ffoniwch ni ar 0115 9245 517 (Oriau Swyddfa: Dydd Llun - Dydd Gwener 8.30yb – 5.30yh).

Pa mor ddiogel ydy'r system?

Mae'r system wedi'i dilysu gan Cyber Essentials Plus – mae hyn yn golygu bod asesydd annibynnol yn ceisio targedu'r wefan er mwyn profi effeithiolrwydd yr amddiffyniadau mewn lle. Dilysir y system hefyd gan "Diogelu trwy Ddylunio" gan Fenter Atal Trosedd yr Heddlu.

Problemau eraill?

Ewch i dudalen gymorth Rhybudd Cymdogaethau.

Fel arall, cysylltwch â VISAV (y cwmni sy'n darparu'r gwasanaeth): support@neighbourhoodalert.co.uk neu ffoniwch 0115 9245 517 (Oriau Swyddfa: Dydd Llun - Dydd Gwener 8.30yb – 5.30yh).