|
||||
|
||||
|
||||
Annwyl breswylydd, Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi derbyn adroddiad gan gyngor cymuned lleol Yr Orsedd a Burton bod trigolion wedi mynegi pryderon am barcio ar balmentydd yn Burton a’r Orsedd. Mae cerbydau sydd wedi parcio ar y palmant yn yr ardal hon wedi achosi rhwystr i gerddwyr sy'n defnyddio'r palmant. Ar hyn o bryd, nid yw’n anghyfreithlon i barcio ar y palmant yng Nghymru. Fodd bynnag, mae'n drosedd achosi rhwystr. A gaf fi ofyn felly os ydych chi neu unrhyw un sy'n ymweld â'ch cartref yn parcio yn yr ardal hon, a allwch chi osgoi parcio ar y palmant. Os nad yw hyn yn bosibl, yna rwy’n cynghori eich bod yn caniatáu digon o le i ganiatáu i gerddwyr basio ar y palmant, mae hyn hefyd yn cynnwys caniatáu digon o le i gadeiriau gwthio a chadeiriau olwyn basio. Diolch i chi ymlaen llaw am eich cydweithrediad wrth helpu i ddatrys y problemau. Tîm Plismona Bro | ||||
Reply to this message | ||||
|
||||
|