Ddoe, cafodd Heddlu Gogledd Cymru wybod gan staff Cyngor Sir Conwy eu bod wedi darganfod 20+ o sticeri cod QR twyllodrus ychwanegol ar eu peiriannau talu am barcio ers y penwythnos. Mae'r sticeri yma ar ôl eu sganio yn arwain at wefan ffug sydd yn edrych yn ddilys. O ganlyniad mae'r dioddefwr yn rhannu gwybodaeth ei gerdyn banc er mwyn talu am barcio, ac mae'r troseddwyr yn ei ddefnyddio i fynd ar sbri siopa.
Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cael achosion tebyg ac wedi cyhoeddi post Facebook i rybuddio am y rhain ddoe. Darllenwch eu post yma: https://www.facebook.com/share/1AGS5jKu69/
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn gweithio'n agos ar y cyd â'r Cynghorau Sir sydd wedi eu effeithio i gynorthwyo ac i gynnal ymchwiliadau. Anogir unrhyw un sydd wedi dioddef y math yma o dwyll i gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru i riportio’r mater.
Mae’n bosibl iawn y bydd ardaloedd eraill yng Ngogledd Cymru hefyd yn cael eu targedu gan y troseddwyr, yn enwedig wrth iddi fynd yn fwy prysur dros y gwanwyn a’r haf. Rhannwch y wybodaeth yma gyda’ch teulu, ffrindiau a chymdogion i wneud yn siŵr nad ydynt yn cael eu dal allan.
#SeiberDdiogel |