Mae data’n dangos fod cynnydd wedi bod yn ystod 2024 yn nifer yr achosion o hacio cyfrifon cyfryngau cymdeithasol ac e-bost gyda chyfanswm o 35,434 o adroddiadau wedi’u gwneud i Action Fraud, o gymharu â 22,530 o adroddiadau a wnaed yn 2023 gyda bron i £1 miliwn wedi’i golli i hacwyr y llynedd.
Y cymhellion mwyaf cyffredin dros hacio cyfryngau cymdeithasol oedd naill ai twyll buddsoddi, twyll tocynnau neu ddwyn y cyfrif ar gyfer cribddeiliaeth.
Er mwyn diogelu eich cyfrifon mae angen i chi -
✅ Alluogi Dilysu 2-gam ar bob cyfrif ar-lein sydd gennych – mae hyn yn ychwanegu haen ychwanegol o ddiogelwch i’ch cyfrifon a bydd yn helpu i brofi pwy ydych chi wrth fewngofnodi ac yn atal twyllwyr rhag dwyn neu gael mynediad at eich gwybodaeth gwerthfawr. Gellir ei droi ymlaen mewn ychydig funudau – sydd werth pob ymdrech i gadw'r twyllwyr allan.
✅ Diogelwch eich cyfrifon cyfryngau cymdeithasol ac e-bost drwy sicrhau fod pob cyfrinair yn gryf ac yn defnyddio tri gair ar hap. Cofiwch beidio byth â rhannu eich cyfrineiriau ag unrhyw un arall.
Dysgwch fwy am sut i gymryd y camau uchod yma – https://www.ncsc.gov.uk/cyberaware/home
#SeiberDdiogelHGC |