Byddwch yn wyliadwrus o e-byst FFUG sy'n honni eu bod gan Microsoft. Mae'r e-byst yn honni fod Windows Defender wedi canfod "bygythiadau ar eich dyfais" ac yn annog y derbynnydd i ddefnyddio'r dolenni a ddarperir i weld yr adroddiad llawn neu i redeg sgan o'u dyfais. Mae'r dolenni'n arwain at wefannau maleisus sydd wedi'u cynllunio i ddwyn gwybodaeth bersonol ac ariannol.
Os oes gennych unrhyw amheuon am neges, cysylltwch â'r sefydliad yn uniongyrchol. Peidiwch â defnyddio'r rhifau na'r cyfeiriad yn y neges - defnyddiwch y manylion cyswllt sydd ar eu gwefan swyddogol.
✅ Wedi derbyn e-bost amheus? Gallwch roi gwybod amdano drwy anfon yr e-bost ymlaen at: report@phishing.gov.uk
#SeiberDdiogelHGC |