|
||||
|
||||
|
||||
Nid yw cam-drin domestig yn dderbyniol. Os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod yn profi cam-drin domestig, nid chi sydd ar fai ac nid chi yw'r unig un. Mae Heddlu Gogledd Cymru yn cymryd pob digwyddiad o Gam-drin Domestig o ddifrif a byddant yn eich helpu a'ch amddiffyn. Os NAD ydych chi'n teimlo eich bod chi mewn perygl uniongyrchol, yna cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru drwy sgwrs fyw, rhowch wybod ar-lein neu ffoniwch 101. Fel arall, os nad ydych chi eisiau cysylltu â'r Heddlu ond bod angen cymorth arnoch chi, cysylltwch ag un o'r rhifau llinell gymorth isod: Cysylltiadau defnyddiol Uned diogelwch cam-drin domestig: 0333 360 0483 Llinell Cymorth i Ddioddefwyr: 08 08 16 89 111 Gwybodaeth a chymorth i unrhyw un sydd wedi’i effeithio gan drosedd. Mae ein gwasanaeth ffôn am ddim ar agor 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos. Am gyngor a gwybodaeth ewch i www.victim support.org.uk Gallwch gysylltu â ni gan ddefnyddio Testun y Genhedlaeth Nesaf drwy ychwanegu 18001 cyn unrhyw un o’n rhifau ffôn. Llinell Plant: 0800 1111 Llinell Gymorth Trais Domestig Genedlaethol : 0808 2000 247 Gwasanaeth ffôn am ddim 24 awr i fenywod a ddarperir gan Refuge and Women's Aid. Llinell gymorth cam-drin domestig LHDT+ Genedlaethol Galop: 0800 999 5428 Llinell gymorth cam-drin domestig LHDT+ genedlaethol. Ar agor 10am–5pm, dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Gwener a 10am–8pm, dydd Mercher, dydd Iau. Llinell Gyngor i Ddynion: 0808 801 0327 Gwasanaeth ffôn am ddim sy'n cynnig cyngor a chefnogaeth i ddynion mewn perthnasoedd camdriniol. Ar agor 9am–5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Cymdeithas Menywod Duon yn Camu Allan (BAWSO) : 0800 7318 147 Karma Nirvana: 0800 5999 247 - yn cefnogi dioddefwyr troseddau anrhydedd a phriodasau dan orfod. | ||||
Reply to this message | ||||
|
||||
|