{SITE-NAME} Logo
Heddlu Gogledd Cymru
Message Type Icon

Byddwch yn ofalus o’r sgam uwchraddio ffôn symudol.


Mae math o dwyll rydyn ni'n ei weld ar draws y Gogledd Orllewin a'r DU yn cael ei adnabod fel sgam uwchraddio ffôn symudol. Bydd sgamwr yn gallu nodi pa ddarparwr rhwydwaith rydych chi'n ei ddefnyddio dim ond drwy wneud ychydig o ymchwil gyda'ch rhif ffôn symudol. Yna byddan nhw'n eich ffonio chi ac yn esgus ei bod yn gweithio i’ch darparwr rhwydwaith. Mae'r ffaith eu bod nhw wedi cael y cwmni'n iawn yn golygu fod pobl yn aml yn credu eu bod nhw'n siarad â chynrychiolydd dilys. Mae'n rhan o'r tactegau teilwro cymdeithasol maen nhw'n eu defnyddio. Bydd y cynrychiolydd yn dweud gan eich bod chi'n gwsmer mor wych, eich bod chi'n gymwys i gael uwchraddiad ffôn symudol am ddim i'r model diweddaraf. Fodd bynnag, maen nhw'n dweud eu bod angen gwirio'ch manylion yn gyntaf ac yn gofyn am y cyfeiriad e-bost sy'n gysylltiedig â'ch cyfrif. Yna byddan nhw'n dweud wrthych y byddent yn anfon 'cyfrinair untro' atoch chi i'ch cyfrif e-bost. Fodd bynnag, yr hyn maen nhw wedi'i wneud mewn gwirionedd ydi ailosod eich cyfrinair, a bydd y cyfrinair untro yn caniatáu iddynt gael mynediad i'ch cyfrif. Unwaith y byddant wedi mewngofnodi i’ch cyfrif, byddant yn prynu ffôn symudol newydd, ond ni fydd yr union un yr ydych chi wedi gofyn amdano, e.e., gallai fod y lliw anghywir er enghraifft neu dyfais ychydig yn wahanol. Gan fod ganddynt fynediad i'ch cyfrif, byddant yn cadw golwg ar yr archeb ac ychydig cyn i’r ffôn gyrraedd, byddant yn cysylltu â chi i ddweud fod camgymeriad wedi digwydd a'u bod nhw eisiau i chi anfon y ffôn anghywir yn ôl er mwyn iddynt yrru yr un cywir i chi. Byddant yn anfon cod QR atoch i'w sganio i bostio'r ffôn yn ôl. Fodd bynnag, bydd y cod QR yma’n postio'r ffôn newydd sbon i gyfeiriad mulo, lle mae llawer o ffonau dioddefwyr yn cael eu casglu cyn eu hanfon ymlaen at y sgamwr go iawn. O'r fan hon, mae'r rhan fwyaf o'r ffonau'n cael eu hanfon dramor lle cânt eu gwerthu. Felly, os oes unrhyw un yn eich ffonio, gan ddweud wrthych fod cyfle gwych i uwchraddio ffôn am ddim, mae'n debyg ei fod yn sgam ac eu bod mewn gwirionedd yn ceisio cael mynediad i'ch cyfrif. Rhowch y ffon i lawr ac os y dymunwch, cysylltwch â'r cwmni'n uniongyrchol gan ddefnyddio manylion cyswllt wedi'u gwirio o'u gwefan swyddogol i wirio fod y cyswllt yn ddilys. #SeiberDdiogelHGC


Reply to this message
Neges a Anfonwyd Gan
Dewi Owen
(North Wales Police, Cyber Crime Officer, North Wales)

Neighbourhood Alert Cyber Essentials