|
||||
|
||||
|
||||
Her Fawr yr Haf 2025 Mae Her Fawr yr Haf eleni bellach yn fyw Yn dilyn llwyddiant Her Fawr yr Haf y llynedd, rydym unwaith eto’n gwahodd pobl ifanc i gymryd rhan yn y gystadleuaeth wych hon! Os ydych chi'n ysgol, grŵp/clwb ieuenctid neu sefydliad sy'n gweithio gyda phobl ifanc, ystyriwch gymryd rhan yn ein her haf, mae cofrestru ar agor nawr! Byddwch chi'n cael cyfle i ennill gwobrau ariannol gwych hyd at £750! Her Fawr yr Haf – ydych chi'n barod? Hoffech chi ennill arian i'ch clwb, grŵp neu ysgol? Mae Heddlu Gogledd Cymru mewn partneriaeth â Solon Security a PACT wedi lansio #HerYrHafFawr – cyfle i blant a phobl ifanc gwblhau prosiect dros yr haf a fydd yn gwella eu cymuned mewn rhyw ffordd. Rydym yn galw ar ysgolion, colegau, grwpiau ieuenctid a chlybiau i lunio syniadau arloesol a fydd yn cadw pobl yn ddiogel neu o fudd i bobl a lleoedd yn eu cymuned. Ffordd wych o wneud gwahaniaeth yn eich cymuned eich hun a chael cyfle i ennill arian. Gwobr 1af £750, 2il £500, 3ydd £250 ynghyd â gwobrau pellach i'w hennill! Dechreuwch gofrestru eich diddordeb nawr!! Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen isod…. Her Fawr yr Haf 2025 - Ymddiriedolaeth Heddlu a Chymuned Gogledd Cymru | ||||
Atodiadau | ||||
Reply to this message | ||||
|
||||
|