Wythnos nesaf yw ymgyrch Cynhwysiant Digidol fwyaf y DU, a gall eich llyfrgell leol yng Nghonwy eich helpu a’ch cefnogi. ⬇️
Rydym eisiau sicrhau y gall unrhyw un deimlo’n gyffyrddus, yn ddiogel ac yn hyderus wrth ddefnyddio gwasanaethau digidol - mae staff cyfeillgar Llyfrgelloedd Conwy bob amser ar gael i helpu. 📲🖥️
🚨 Yn ystod yr wythnos bydd Tim Troseddau Seiber Heddlu Gogledd Cymru draw mewn 3 llyfrgell ledled Sir Conwy i drafod aros yn ddiogel ar-lein ac i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
🌐 Dydd Llun 20/10 - Llyfrgell Bae Colwyn - 10:30am-2pm 🌐 Dydd Mercher 22/10 - Llyfrgell Llandudno - 10:30am-2pm 🌐 Dydd Gwener 24/10 - Llyfrgell Llanrwst - 10:30am-2pm
📌 Bydd llyfrgell Llanrwst hefyd yn gwneud dydd Gwener 24 Hydref yn ddiwrnod digidol gyda llawer o gefnogaeth a gwybodaeth.
Dewch draw i ddweud helo - i gael teimlo’n ddiogel a chael cefnogaeth! 💙👋 
|