Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd (CHTh) Gogledd Cymru yn cynnal cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus ar draws y rhanbarth yn ystod mis Tachwedd a mis Rhagfyr, fel rhan o ymgynghoriad wedi’i harwain gan y cyhoedd. Mi wnaiff y fenter, a enwir yn Bys ar y Pwls, weithredu fel fforwm agored er mwyn clywed safbwynt preswylwyr ynglŷn â phlismona a lleihau troseddau. Mi wnaiff hefyd helpu rhoi gwybod i’r CHTh wrth iddo osod y Praesept ar gyfer plismona i’r flwyddyn sydd ar ddod. Y Praesept ydy’r swm mae pobl yn ei dalu am blismona drwy eu Treth Cyngor, ac mae’n cael ei osod bob blwyddyn yn dilyn adborth gan y cyhoedd.
Mi fydd y sesiynau’n cael eu cynnal ar ffurf agored Neuadd y Dref, gyda mynychwyr yn eistedd wrth fyrddau er mwyn eu galluogi i drafod eu barn ynglŷn â phlismona, rhoi adborth i’r CHTh ac er mwyn cael gwybod ynglŷn â blaenoriaethau Cynllun Heddlu a Throsedd Mr. Dunbobbin ar gyfer y rhanbarth.
Mae hefyd gwahoddiad i breswylwyr gwblhau arolwg ynglŷn â phlismona yn eu cymunedau, a’r swm maen nhw’n teimlo sy’n briodol i’w osod ar gyfer y Praesept i’r flwyddyn sydd ar ddod.
Y dyddiadau a’r lleoliadau ar gyfer y sesiynau Bys ar y Pwls ydy:
Bangor – 11 Tachwedd – 14:00 – Storiel
Rhuthun – 1 Rhagfyr – 10:30 – Marchnad Rhuthun
Y Fflint – 11 Rhagfyr – 13:30 - Neuadd y Dref
Wrecsam – 12 Rhagfyr – 14:00 – Y Neuadd Goffa
Y Bermo – 16 Rhagfyr – 13:30 – Red Dragon Theatre
Bae Colwyn – 17 Rhagfyr – 13:30 – Hyb Bae Colwyn
Mae dod i’r cyfarfodydd yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb, ond ‘da ni’n gofyn eich bod chi’n cofrestru er mwyn bod darpariaeth ddigonol o ran seddi a lluniaeth, a bod niferoedd ddim mwy na’r lle sydd ar gael yn y mannau cyfarfod. Er mwyn archebu, ewch ar: https://forms.office.com/e/PsEPWRbxAr |