|
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru (PCC) Andy Dunbobbin a Heddlu Gogledd Cymru yn cynnal gymhorthfa ar-lein drwy Microsoft Teams ar 18 Mawrth 2026 rhwng 6.00pm a 8.00pm fel rhan o genhadaeth y PCC i ddod â phlismona yn agosach at bobl y rhanbarth. Bydd y gymhorthfa ar-lein yn galluogi pobl leol i drafod plismona yn eu cymunedau ac i godi unrhyw bryderon neu sylwadau allai fod ganddynt gyda'r Comisiynydd a chynrychiolwyr o Heddlu Gogledd Cymru, o bell.
Bydd gan fynychwyr 20 munud i siarad yn bersonol â'r Comisiynydd, a fydd yng nghwmni cynrychiolwyr o'i swyddfa a Heddlu Gogledd Cymru, i ddarparu'r cymorth mwyaf posibl i'r cyhoedd. Bydd y sgyrsiau yn parhau i fod yn gyfrinachol, a bydd y Comisiynydd, swyddogion a staff yn gallu darparu arwyddion pellach os gall asiantaethau a sefydliadau eraill ymdrin â mater yn fwy priodol.
Sut mae'r cymorthfeydd yn gweithio
Bydd staff o’r Swyddfa Comisiynydd a Heddlu Gogledd Cymru hefo’r CHTh yn ystod y digwyddiad ar-lein, a fydd yn helpu i hwyluso’r cyfarfodydd a chymryd nodiadau os oes angen.
Bydd y cymorthfeydd yn cael eu cynnal drwy apwyntiad yn unig er mwyn sicrhau bod y materion sy'n cael eu trafod yn ymwneud â phlismona, trosedd neu ddiogelwch cymunedol, ac i sicrhau bod y CHTh yn cael gwybod am yr hyn sydd o dan sylw cyn y cyfarfod.
Er nad yw'r Comisiynydd yn gallu ymyrryd mewn materion gweithredol mae'n croesawu adborth trigolion ar sut mae Gogledd Cymru yn cael ei blismona.
Ni fydd CHTh yn gallu ystyried cwynion am swyddogion heddlu, aelodau o staff, SCCH a swyddogion gwirfoddol. Rhaid i hyn fynd drwy sianeli sydd wedi eu sefydlu yn barod. Mae cyngor pellach ar y system gwyno ar wefan SCHTh yma.
Sut i archebu lle
Os hoffech archebu lle am 20 munud gydag Andy Dunbobbin, cysylltwch â swyddfa CHTh gan roi eich enw, gwybodaeth cyswllt a'r hyn yr hoffech drafod yn ystod y cyfarfod, drwy:
E-bost: opcc@northwales.police.uk
Ffôn: 01492 805486
Cyfeiriad: Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Pencadlys yr Heddlu, Glan y Don, Bae Colwyn, LL29 8AW
Nodwch, mae'r apwyntiadau yn gweithio ar sail y cyntaf i'r felin, ac ni allwn warantu lle i bawb. Os bydd sesiwn yn llawn, rhoddir gwybodaeth am sesiynau eraill. |