|
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd (CHTh) Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin, Heddlu Gogledd Cymru ac Ymddiriedolaeth yr Heddlu a’r Gymuned Gogledd Cymru (PACT) yn gofyn i bobl y rhanbarth helpu dewis prosiectau fydd yn cael arian drwy’r fenter Eich Cymuned, Eich Dewis. Mae £60,000 ar gael er mwyn helpu prosiectau sy’n gwneud ein cymunedau ni’n lefydd mwy diogel a chynhwysol er mwyn pawb, efo’r arian yn dod o Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd, yn ogystal ag arian ac asedau wedi’u hatafaelu gan droseddwyr.
Mae cymryd rhan yn y bleidlais yn hawdd – mae aelodau’r cyhoedd angen dewis y prosiectau maen nhw’n meddwl fydd yn helpu eu cymunedau nhw fwyaf. Mae’r bleidlais ar agor rŵan (9 Mawrth) tan hanner nos ar 27 Mawrth 2026. Pleidleisiwch gan ddefnyddio’r dolenni canlynol yn eich iaith o’ch dewis:
Arolwg Cymraeg: https://www.surveymonkey.com/r/N2SCGPQ
Arolwg Saesneg: https://www.surveymonkey.com/r/CDK6TR2
Mi all pob pleidleisiwr ddewis eu hoff brosiect, ac mae’r tri prosiect sy’n cael y nifer fwyaf o bleidleisiau ym mhob sir yn cael cyfran o’r arian. Yn ogystal â hyn, bydd arian yn mynd i’r tri prosiect pennaf sy’n cynrychioli’r rhanbarth gyfan. Golyga hyn bod cyfanswm o 21 enillydd ar draws Gogledd Cymru.
Mae’r rhestr fer o’r mentrau lleol isod, ac mae bywgraffiad ar gyfer pob prosiect ar gael ar y dudalen bleidleisio.
Ynys Môn:
Grŵp Sgowtiaid 1af Porthaethwy gan gynnwys Uned Sgowtiaid Explorer De Môn – Prosiect o’r enw ‘Cadw’n Ddiogel’, sy’n archwilio materion sy’n ymwneud â thân a sut i goginio’n ddiogel.
Cymuned CELS – Dargyfeiriad Chwaraeon Stryd Nos Wener Ynys Môn 2026
Majorettes Gwelfor – Mae’r prosiect yn ceisio arian er mwyn cyflwyno rhaglen majorette gymunedol yn ardal Caergybi.
Medrwn Môn – Mae Prosiect Prism yn rhoi cymorth i bobl ifanc yng Nghaergybi sydd mewn perygl o fod yn ymylol, gofidus, diffyg ymgysylltiad gyda'r ysgol neu ymddygiad gwrthgymdeithasol lefel isel.
Môn Actif – Prosiect sy’n defnyddio chwaraeon er mwyn atal troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, a chynorthwyo Timau Plismona Cymdogaethau.
Clwb Pêl-fasged Celtiaid Ynys Môn – Prosiect ‘Social-BALL 2.0’ sy’n cynnwys chwarae pêl-fasged am ddim ar draws Ynys Môn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Conwy:
Cwmni Theatr Kaleidoscope Conwy a'r Fro – Prosiect er mwyn ariannu eu cynhyrchiad Eira Wyn yn 2026.
Clwb Pêl-droed Tref Llanfairfechan – Rhaglen hyb ieuenctid cwt te cymunedol a rhaglen dargyfeirio'r ardal gemau aml-ddefnydd.
Mad Batters – cynorthwyo creadigaeth man croesawgar ar gyfer grŵp rownderi merched cymunedol.
Pensarn Pickers – Rhaglen Haf Amgylcheddol Pensarn 2026.
Youth Shedz Cymru – Y prosiect Newid y Naratif, er mwyn cyflwyno rhaglen chwe wythnos ar gyfer pobl ifanc sy’n ymwneud, neu mewn perygl o ymwneud, ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Sir Ddinbych:
Blossom and Bloom – Mae Blodeuo a Chwarae yn rhaglen o sesiynau cymdeithasu, cysylltu a chwarae wythnosol ar gyfer rhieni a babanod, sy’n rhad ac am ddim.
Gwasanaeth Ceidwad Chwarae Sir Ddinbych – Mae’r prosiect Allan â Ni’r Rhyl yn ceisio darparu man ar gyfer plant a phobl ifanc yn y Rhyl er mwyn cymdeithasu, ymlacio a theimlo’n ddiogel.
Beiciau Drosi – Mae’r rhaglen Paratoi: Hyfforddiant Ieuenctid er mwyn cynorthwyo cyflwyno hyfforddiant beicio a chynnal a chadw ymarferol.
Ysgol Stryd Rhos, Rhuthun – Prosiect cydweithredol diogelwch y ffyrdd, sef Byddwch yn Wyliadwrus, Peidiwch â Chael eich Brifo.
Gerddi Botanegol y Rhyl – Sied Chwarae a Chwaraeon @ RBG er mwyn darparu cyfleoedd chwarae mynediad agored am ddim, sy'n annog pobl ifanc a theuluoedd i ddod at ei gilydd, bod yn fywiog, a mwynhau profiadau a rennir.
Cwmni Buddiant Cymunedol Marchnadoedd Crefftwyr Rhuthun – Y Clwb DJ Pitsa er mwyn datblygu sesiynau cerddoriaeth strwythuredig a nosweithiau ‘Cerdd a Phitsa’ wythnosol, wedi’u dewis yn uniongyrchol gan bobl ifanc yr ardal.
Sir y Fflint:
Oedran a Dementia Treffynnon – Er mwyn cyflwyno taith lles cymunedol o’r enw Llwybrau Llawen.
Cwmni Buddiant Cymunedol Cobra Life – Gwarcheidwaid Cymunedol, sef atal troseddau ieuenctid drwy prosiect Crefft Ymladd a mentora.
Corneli Cymunedol – Prosiect ymgysylltiad cymunedol Canolfan Gymunedol Glanrafon.
Dyfodol Cadarnhaol Yr Wyddgrug – Ar gyfer prosiect galw heibio, er mwyn hyrwyddo grŵp mwy cadarnhaol, cadarn o bobl ifanc sy’n ymgysylltu â’r gymuned yn yr ardal leol.
Cwmni Buddiant Cymunedol Well Funny – Prosiect comedi ar gyfer newid, sef Dod o Hyd i’ch Llais, yn yr Wyddgrug ar gyfer pobl ifanc sydd mewn perygl o gyflawni neu gael euogfarn am drosedd, a chyn droseddwyr sy'n oedolion.
Gwynedd:
Clwb Pêl-droed Bethel – Prosiect Ein Hieuenctid, Ein Dyfodol Haf 2026 ar gyfer man diogel er mwyn i bobl ifanc gymdeithasu a bod yn rhan o'r gymuned.
Clwb Pêl-droed Nefyn – Prosiect Taclo er Mwyn Tyfu er mwyn gosod goliau hyfforddi 360 gradd o ansawdd uchel ac offer newydd ar gyfer ein timau iau.
Neuadd Bentref Dyffryn Ardudwy a Thal y Bont – Mae’r prosiect Ciw a Chysylltu yn lansio hyb ieuenctid cymunedol snwcer a dartiau.
Pwyllgor Pentra Deiniolen – Prosiect Hyb Deiniolen er mwyn sefydlu hyb ieuenctid wythnosol yng nghanol y pentref.
Porthi Dre – Mae’r prosiect Scran ar ôl Ysgol yn glwb wythnosol ar ôl ysgol sy'n darparu pryd o fwyd poeth, goruchwyliaeth gan oedolion, a lle diogel ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghaernarfon.
Hyb Westend – Bydd Clwb Ieuenctid Sgiliau Bywyd a Lles yn cyflwyno rhaglen strwythuredig o weithgareddau cadarnhaol, ystyrlon sydd wedi'u cynllunio er mwyn cefnogi pobl ifanc rhwng 11 a 18 oed ym Mangor.
Wrecsam:
Oherwydd y nifer isel o geisiadau o ardal Wrecsam, nid oes angen pleidlais cyhoeddus ar gyfer sir Wrecsam.
Prosiectau Gogledd Cymru Gyfan:
Pentre Peryglon – Gogledd Cymru Fwy Diogel, sef prosiect er mwyn cynorthwyo costau mynediad a thrafnidiaeth ar gyfer ysgolion ledled Gogledd Cymru, gan sicrhau mynediad at addysg diogelwch hanfodol.
Pellenig Cyf – Mae’r prosiect Môr, Mynydd a Choedwig efo’r nod o ddatblygu rhaglen aml-chwaraeon awyr agored sy'n cyfuno syrffio, beicio mynydd ac eirafyrddio er mwyn cynorthwyo pobl ifanc yn ein hardaloedd, sef Ynys Môn, Gwynedd a Chonwy.
Cwmni Buddiant Cymunedol Dysgu Awyr Agored Pen y Bryn – Mae’r Prosiect Dringo er mwyn Gwella efo’r nod o barhau cynnal rhaglen ddringo o dan gyfarwyddyd, er mwyn cynorthwyo unigolion sy'n gwella o ddibyniaeth ar gyffuriau ac alcohol.
Clwb Dawns WISP – Mae’r prosiect #Ni’nDawnsioHefyd er mwyn darparu mannau diogel ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n byw gydag anghenion ychwanegol ddod at ei gilydd, archwilio meddyliau a theimladau drwy symud. |