|
||
|
|
||
|
||
|
BYDDWCH YN SEIBER GADARN! |
||
|
Prynu rhywbeth ar-lein gan werthwr preifat ac maen nhw eisiau taliad ymlaen llaw neu flaendal mawr cyn i chi gyrraedd neu dderbyn yr eitem? Peidiwch â gadael i "fargen" droi'n ddyled.
Arhoswch a Meddyliwch, a yw hyn yn rhy dda i fod yn wir? Byddwch yn Seiber-gadarn os yw eitem yn ymddangos yn rhy rhad.
🚩 Rhybuddion i Wylio Allan Amdanynt: - Taliadau Ymlaen Llaw: Mae'r gwerthwr yn mynnu blaendal mawr neu daliad llawn cyn i chi weld yr eitem yn bersonol. - Prisio Amheus: Os yw eitem gwerth uchel wedi'i rhestru ymhell islaw gwerth y farchnad, mae'n debygol o fod yn sgam. - Cael eich Brysio: Gwerthwr yn honni fod "llawer o bobl eraill â diddordeb" i'ch gorfodi i wneud taliad cyflym, heb ei wirio.
✅ Sut i Aros yn Seiber-gadarn: - Prynwch o wefannau dibynadwy yn unig. - Archwiliwch Cyn i Chi Dalu: Peidiwch byth ag anfon arian am eitem nad ydych wedi'i gweld a'i gwirio'n gyntaf.
- Defnyddiwch Lwyfannau Talu Diogel: Osgowch drosglwyddiadau banc uniongyrchol (BACS) neu daliadau "Ffrindiau a Theulu". Defnyddiwch wasanaethau sy’n diogelu’r prynwr.
#SeiberDdiogelHGC
| ||
Reply to this message | ||
|
|





