|
||
|
|
||
|
||
|
BYDDWCH YN SEIBER GADARN! |
||
|
Ydych chi wedi troi Dilysu 2 Gam (a elwir hefyd yn Ddilysu Aml-Ffactor) ymlaen ar eich holl gyfrifon ar-lein?
Yn ôl Microsoft, Dilysu 2 Gam yw'r amddiffyniad mwyaf effeithiol yn erbyn cymryd cyfrifon drosodd, gyda'u harbenigwyr yn datgan na fyddai dros 99% o'r cyfaddawdau cyfrifon y maent yn eu gweld wedi digwydd pe bai Dilysu 2 Gam wedi'i alluogi ar y cyfrif.
Mae Dilysu 2 Gam yn cyfateb i gadwyn ddiogelwch ar eich drws ffrynt; mae'n ychwanegu haen ychwanegol o ddiogelwch i'ch cyfrifon a bydd yn helpu i brofi eich hunaniaeth wrth fewngofnodi a bydd yn atal twyllwyr rhag dwyn neu gael mynediad at eich gwybodaeth gwerthfawr. Gellir ei droi ymlaen mewn ychydig funudau – defnydd da iawn o amser i gadw'r twyllwyr a'r seiberdroseddwyr allan.
Lleihewch eich risg ar-lein a throwch Dilysu 2 Gam ymlaen. Byddwch yn Seiber Gadarn!
#SeiberDdiogelHGC
| ||
Reply to this message | ||
|
|





