|
||
|
|
||
|
||
|
RHYBUDD SGAM BYDDWCH YN SEIBER GADARN: PEIDIWCH Â CHAEL EICH TWYLLO GAN FIDEOS FFUG! |
||
|
Mae ein tîm wedi gweld cynnydd mewn fideos ffug sydd wedi eu creu gan ddeallusrwydd artiffisial yn ddiweddar sy'n targedu pobl ledled Gogledd Cymru. Yn aml, mae'r fideos yn dynwared Martin Lewis (Money Saving Expert) - ond mewn gwirionedd yn hollol ffug ac yn cymeradwyo buddsoddiadau cryptoarian. NID yw Martin Lewis BYTH yn cymeradwyo buddsoddiadau. Os gwelwch chi ef (neu unrhyw enwogion eraill) yn dweud wrthych chi am fuddsoddi arian ar blatfform cryptoarian ar gyfryngau cymdeithasol MAE'N SGAM.
🛑 Sut i Gadw'n Ddiogel: * Cwestiynwch Bopeth: Gall deallusrwydd artiffisial bellach ddynwared lleisiau ac wynebau'n berffaith. Er fod y fideo yn edrych fel rhywun enwog, nid yw'n golygu mai nhw ydyw mewn gwirionedd. * Gwiriwch Ffynonellau Swyddogol: Ewch yn uniongyrchol at dudalennau cyfryngau cymdeithasol neu wefan swyddogol y sawl sydd yn y fideo i wirio dilysrwydd y cynnwys. * Rhy Dda i Fod yn Wir? Os yw'n addo cyfoeth "gwarantedig" neu "hawdd", mae'n dwyll a gynlluniwyd i ddwyn eich arian.
📢 Beth i'w wneud: Os ydych chi wedi gweld un o'r fideos yma neu wedi cael eich targedu: * Adroddwch amdano: Cysylltwch ag Report Fraud (Action Fraud gynt) ar 0300 123 2040 neu drwy reportfraud.police.uk. * Cysylltwch â'ch banc: Os ydych chi eisoes wedi rhannu manylion ariannol neu wedi anfon arian, ffoniwch eich banc ar unwaith. * Dywedwch wrth yr Heddlu: Gadewch i’r Heddlu wybod yn uniongyrchol drwy ffonio 101 neu ar-lein. * Amddiffynnwch eich cynilion. Peidiwch â gadael i fideo a gynhyrchwyd gan gyfrifiadur ddwyn yr arian yr ydych wedi gweithio’n galed amdano.
#SeiberDdiogelHGC
| ||
Reply to this message | ||
|
|





