|
||
|
|
||
|
||
|
Rhybudd Diogelwch Brys: Ymgyrch Gwe-rwydo Corfforol yn Targedu Defnyddwyr Ledger. |
||
|
Ar hyn o bryd mae Uned Troseddau Seiber Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio i achosion sy'n defnyddio teilwra cymdeithasol i dargedu unigolion sy'n defnyddio waledi caledwedd arian cyfred digidol ‘Ledger’.
Er ein bod ni i gyd wedi arfer adnabod e-byst a negeseuon testun amheus, mae sgamwyr bellach yn mynd â'r frwydr i'ch drws ffrynt drwy anfon llythyrau drwy'r post. Mae'r newid yma mewn tacteg yn ymgais i osgoi eich diogelwch digidol.
Y Sgam: Sut Mae'n Gweithio Mae twyllwyr yn defnyddio data cwsmeriaid o doriadau data Ledger blaenorol (gan gynnwys enwau, cyfeiriadau, a hanes prynu) i wneud i'r llythyrau yma edrych yn ddilys. • Y Bachyn: Mae'r llythyr yn honni fod yn rhaid i chi berfformio "Diweddariad Diogelwch Gwrthiant Cwantwm" erbyn diwedd y mis. • Yr Abwyd: Mae'n cynnwys brandio swyddogol, eich manylion personol, a hyd yn oed yn rhestru'r dyfeisiau Ledger penodol sydd gennych i feithrin ymddiriedaeth. • Y Trap: Mae cod QR yn y llythyr yn eich cyfeirio at wefan ffug sy'n dynwared ap Waled Ledger yn berffaith. Bydd yn gofyn i chi nodi eich ymadrodd adfer 24 gair.
RHYBUDD! Unwaith y byddwch chi'n nodi'r ymadrodd hwnnw, bydd gan y sgamwyr reolaeth lawn dros eich asedau. Byddan nhw'n gwagio'ch waled mewn eiliadau. Byddwch yn wyliadwrus wrth i'r sgamwyr fynd yn fwy fwy creadigol! Cofiwch na allant gael mynediad i'ch asedau os byddwch chi'n cadw'ch ymadrodd adfer yn breifat. - Ewch gyda’ch Greddf: Ni fydd Ledger nac unrhyw ddarparwr waled ag enw da arall BYTH yn gofyn am eich ymadrodd adfer. Os yw cais yn creu ymdeimlad o frys eithafol ac yn gofyn am eich cyfrinair, mae'n sgam. - Anwybyddwch y Cod QR: Peidiwch byth â sganio codau QR digymell sydd heb eu gwirio, yn enwedig pan fyddant yn ymwneud â chyfrifon ariannol neu ddiweddariadau diogelwch. - Dilyswch yn uniongyrchol: Os ydych chi'n pryderu am ddiweddariad, ewch yn uniongyrchol i wefan swyddogol Ledger trwy deipio'r cyfeiriad i'ch porwr gwe. Peidiwch â dilyn dolenni heb eu gwirio a ddarperir mewn llythyrau neu e-byst.
Os ydych chi eisoes wedi sganio cod QR neu wedi rhannu eich ymadrodd adfer, rhaid i chi weithredu ar unwaith i ddiogelu eich asedau. 1. Stopiwch ddefnyddio'r ddyfais a'r ymadrodd adfer sydd wedi'i peryglu ar unwaith. 2. Symudwch eich Asedau: Trosglwyddwch eich arian cyfred digidol i waled hollol newydd gydag ymadrodd hadau newydd sbon. Mae pob eiliad yn cyfrif. 3. Riportiwch y mater: Adroddwch i Report Fraud (canolfan adrodd genedlaethol y DU ar gyfer twyll a seiberdroseddu) ar eu gwefan neu drwy ffonio 0300 123 2040. 4. Cadwch y Dystiolaeth: Cadwch y llythyr, cymerwch sgrinluniau o'r wefan ffug, a nodwch unrhyw hashiau trafodion.
#SeiberDdiogelHGC
| ||
Reply to this message | ||
|
|





