|
Gwahoddir ffermwyr, tirfeddianwyr, busnesau gwledig a thrigolion ledled Gogledd Cymru i ddigwyddiad atal troseddau cefn gwlad, rhad ac am ddim yn Rhuthun ym mis Mai.
Wedi'i threfnu ar y cyd gan yr SCHTh, Heddlu Gogledd Cymru, Canolfan Gwydnwch Seibr Cymru a’r elusen Tir Dewi, bydd y sesiwn yn ymdrin â'r canlynol:
- Diogelu peiriannau, da byw ac eiddo
- Deall bygythiadau seiber sy'n targedu busnesau gwledig
- Camau ymarferol i gryfhau diogelwch – ar-lein ac ar lawr gwlad
- Cyfleoedd i ofyn cwestiynau a chodi pryderon lleol
-----------------------------------------------------------
- Neuadd y Dref Rhuthun, Heol Wynnstay, Rhuthun, LL15 1BE
- 21 Mai 2026
- 18:00 cyrraedd | 18:30–20:45
- Mynediad am ddim
- Archebwch eich lle: https://forms.office.com/Pages/ResponsePage.aspx?id=drGGTg6hvUONJ5J_RNDmZWouNiap4tlDuH5Yk2xwa0lUMUwyQ1NVRTI4OEJRRkdSRThPQjc3NTExVC4u
Gadewch i ni weithio gyda'n gilydd i gadw cymunedau gwledig Gogledd Cymru yn ddiogel. |