|
||
|
|
||
|
||
|
Hen dric mewn gwisg newydd. |
||
|
Cadwch lygad am negeseuon testun sy'n ymddangos fel pe baent gan aelod o'r teulu sy'n honni eu bod wedi anghofio neu golli eu cerdyn ac yn gofyn i chi drosglwyddo arian i'w helpu.
Rydym wedi rhybuddio sawl gwaith dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf am y sgamiau 'Helo Mam' neu 'Helo Dad' sy'n dynwared aelodau o'r teulu ar WhatsApp a llwyfannau negeseuon eraill.
Fodd bynnag, rydym wedi gweld nifer o achosion yn ddiweddar lle mae'r troseddwyr ar-lein wedi rhoi tro newydd ar y sgamiau traddodiadol 'Helo Mam' neu 'Helo Dad' lle maent bellach yn esgus bod yn 'Mam' neu'n 'Dad' gan ofyn i'w plant sydd bellach yn oedolion eu helpu trwy anfon arian iddynt.
• Bydd ymdeimlad o frys. Bydd yr anfonwr yn honni eu bod wedi anghofio neu wedi dod â'r cerdyn banc/credyd anghywir pan fyddant allan yn talu am betrol neu’n sipa bwyd ac felly angen arian yn gyflym.
⛔ Peidiwch ag ateb yn uniongyrchol yn y llif negeseuon. Os ydych chi'n pryderu, ffoniwch neu cysylltwch â'ch perthynas ar y rhif sydd eisoes wedi'i storio yn eich ffôn i gadarnhau ei fod yn ddilys.
Sut i riportio negeseuon sgâm o’r fath: - Os yw'r twyllwyr yn defnyddio WhatsApp, pwyswch a daliwch y swigod neges, dewiswch ‘Report’ ac yna dilynwch y cyfarwyddiadau.
#SeiberDdiogelHGC
| ||
Reply to this message | ||
|
|





