|
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd (CHTh) Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin a Heddlu Gogledd Cymru yn cynnal cymhorthfa gyngor yng Nghanolfan Afon Dyfrdwy, Stryd y Castell, Y Fflint ar gyfer preswylwyr yr ardal am 18.30 tan 20.30 ar 12 Mai. Mae’r digwyddiad yn rhan bwysig o berwyl y CHTh i ddod â phlismona’n agosach at bobl y rhanbarth. Bydd y gymhorthfa yn galluogi pobl leol drafod plismona yn eu cymunedau nhw, a chodi unrhyw bryderon neu sylwadau sydd ganddyn nhw efo’r Comisiynydd a chynrychiolwyr o Heddlu Gogledd Cymru.
Mi fydd gan bobl 20 munud er mwyn siarad yn bersonol efo’r Comisiynydd, fydd yng nghwmni cynrychiolwyr o'i swyddfa a Heddlu Gogledd Cymru. Mi fydd hyn yn darparu’r help gorau posib i’r cyhoedd. Mi fydd y Comisiynydd, swyddogion a staff yn gallu cyfeirio pobl pe bai unrhyw broblem yn gallu cael ei drin yn fwy priodol gan asiantaethau a sefydliadau eraill. Er mwyn sicrhau preifatrwydd, ni fydd aelodau eraill o'r cyhoedd yn bresennol yn ystod y cyfarfod.
Sut mae’n gweithio
Mi fydd y CHTh yng nghwmni staff ei dîm a Heddlu Gogledd Cymru, fydd yn helpu hwyluso’r cyfarfodydd a chymryd nodiadau pe bai angen. Mae cymorthfeydd drwy apwyntiad yn unig, er mwyn sicrhau bod problemau sy’n codi yn gysylltiedig â phlismona, troseddau neu ddiogelwch cymunedol, ac er mwyn sicrhau bod y CHTh yn wybodus ar y pwnc o flaen llaw.
Sut i archebu lle
Os hoffech chi gyfnod o 20 munud er mwyn sgwrsio efo Andy Dunbobbin, cysylltwch efo swyddfa’r CHTh efo’ch enw, manylion cyswllt a’r hyn hoffech chi ei drafod yn ystod eich cyfarfod drwy:
E-bost: opcc@northwales.police.uk
Ffôn: 01492 805486
Post: Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Pencadlys Heddlu Gogledd Cymru, Glan y Don, Bae Colwyn, LL29 8AW
Nodwch bod llefydd y gymhorthfa yn gyfyngedig ac yn gweithio ar sail y cyntaf i’r felin. Ni ellir sicrhau lle ar gyfer pawb. Os bydd sesiwn yn llawn, mi fydd preswylwyr yn cael manylion ynglŷn â sesiynau eraill.
|