|
Mae ffermwyr, perchnogion busnes cefn gwlad, tirfeddianwyr a’r bobl sy’n ymwneud â’r economi cefn gwlad yn cael eu gwahodd i ddigwyddiad atal troseddau cefn gwlad yn Rhuthun ym mis Mai, sydd efo’r nod o helpu cymunedau gryfhau eu diogelwch ar-lein, yn ogystal ag ar y fferm.
Mae’n cael ei gynnal ar y cyd gan Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Timau Troseddau Seiber a Throseddau Cefn Gwlad Heddlu Gogledd Cymru, Canolfan Cadernid Seiber Cymru a’r elusen ar gyfer ffermwyr a’u teuluoedd, Tir Dewi. Mi fydd y digwyddiad yn cynnig cyngor ymarferol, mewnwelediad arbenigol a’r wybodaeth diweddaraf ynglŷn â bygythiadau sy’n effeithio ar gymunedau cefn gwlad sy’n dod i’r amlwg.
Mi fydd y sesiwn rhyngweithiol yn cael ei gynnal ar 21 Mai yn Neuadd y Dref, Rhuthun. Mi fydd yn canolbwyntio ar sut i ddiogelu eiddo cefn gwlad, da byw, peiriannau, tir a bywoliaethau rhag patrymau troseddau sy’n dod i’r amlwg ac sy’n fwyfwy cymhleth.
Mi fydd mynychwyr yn cael clywed gan arbenigwyr mewn meysydd plismona cefn gwlad, atal troseddau a diogelwch cymunedol, gyda chyfle i ofyn cwestiynau, codi pryderon lleol a helpu llunio blaenoriaethau’r dyfodol ar gyfer gwarchod cefn gwlad Gogledd Cymru.
Manylion y Digwyddiad:
Dyddiad: 21 Mai 2026
Amser: 18.00 er mwyn cychwyn am 18.30, tan 20.45
Lle: Neuadd y Dref, Rhuthun, Ffordd Wynnstay, Rhuthun LL15 1BE
Cost: Yn rhad ac am ddim
Archebu lle: https://forms.office.com/Pages/ResponsePage.aspx?id=drGGTg6hvUONJ5J_RNDmZWouNiap4tlDuH5Yk2xwa0lUMUwyQ1NVRTI4OEJRRkdSRThPQjc3NTExVC4u
Mae’r digwyddiad hwn yn benodol ar gyfer:
Ffermwyr a gweithwyr amaethyddol
Preswylwyr cefn gwlad
Tirfeddianwyr a pherchnogion busnes cefn gwlad
Partneriaid cymunedol a sefydliadau lleol
Pe bai mynychwyr eisiau uwchraddio’u diogelwch, cael gwell dealltwriaeth o fygythiadau seiber a chorfforol cyfredol, neu greu cysylltiadau cryfach o fewn y gymuned cefn gwlad, mae’r sesiwn yn cynnig help a chyngor gwerthfawr. |