|
||
|
|
||
|
||
|
?? SIM SWAP SCAM : Is Your Phone Suddenly Offline? / Scam Twyll Cyfnewid SIM: A yw eich ffôn wedi mynd all-lein yn sydyn? ?? |
||
|
Os yw eich ffôn yn dangos "Dim Gwasanaeth" neu "Galwadau Argyfwng yn Unig" yn sydyn pan rydych mewn ardal â signal da fel arfer, fe allech chi fod yn darged i Dwyll Cyfnewid SIM (SIM Swap Scam).
Sut mae’n gweithio: 1. Y Lladrad: Mae sgamwyr yn casglu eich manylion personol (enw, dyddiad geni, cyfeiriad) trwy we-rwydo neu gyfryngau cymdeithasol. 2. Y Cyfnewid: Maent yn cysylltu â’ch darparwr ffon symudol (O2, EE, Vodafone, Three, ayyb.), yn esgus bod yn chi, ac yn honni fod "eich" SIM wedi’i golli neu ei ddifrodi. 3. Y Meddiannu: Maent yn trosglwyddo eich rhif i gerdyn SIM sydd yn eu dwylo nhw. 4. Y Cyrch: Unwaith y mae ganddynt eich rhif, gallent rhyng-gipio Codau Un Tro (OTPs) i fynd o amgylch diogelwch eich banc a chyfrifon eraill a dwyn eich arian.
Sut i amddiffyn eich hun: • Gosodwch PIN ar eich SIM: Ewch i osodiadau eich ffôn a chloi eich cerdyn SIM gyda chod. • Defnyddio Cyfrineiriau Cryf: Defnyddiwch gyfrineiriau unigryw ar gyfer eich e-bost a’ch cyfrifon darparwr ffon symudol. • Gofyn am “Port Freeze”: Gofynnwch i’ch darparwr rhwydwaith ychwanegu haen ychwanegol o ddiogelwch cyn y gellir newid unrhyw SIM. • Gwylio am We-rwydo: Peidiwch byth â chlicio ar ddolenni amheus mewn negeseuon testun neu e-byst sy’n honni bod problem gyda’ch bil.
Beth i’w wneud os yw hyn yn digwydd i chi: 1.Cysylltwch â’ch darparwr ffon symudol yn syth i analluogi’r SIM. 2.Ffoniwch eich banc i rewi eich cyfrifon. 3. Riportiwch i Report Fraud ar 0300 123 2040.
Peidiwch ag aros am hysbysiad na fydd byth yn cyrraedd. Os yw eich signal yn diflannu’n annisgwyl, gweithredwch. 🛡️ #SeiberDdiogelHGC | ||
Reply to this message | ||
|
|




