|
||
|
|
||
|
||
|
Byddwch yn Seiber Gadarn, Dywedwch Na a Rhowch y Ffôn i Lawr ar y Scamwyr. |
||
|
Rydym wedi derbyn adroddiadau diweddar am aelodau o'r cyhoedd yng Ngogledd Cymru yn derbyn galwadau ffôn gan rywun yn honni i fod o dîm twyll y banc.
Mae’r twyllwr sy’n galw wedi honni fod y Banc wedi adnabod fod yr unigolyn y maen’t yn ei ffonio ar fin cael eu targedu gan sgamwyr a bod ei cyfrif a’u harian o dan fygythiad ac fod y banc felly wedi agor cyfrif newydd iddyn nhw o dan enw gwahanol i'w hamddiffyn nhw a'u harian rhag y twyllwyr sy'n eu targedu.
Mae'r sgamiwr sy'n galw wedyn wedi ceisio perswadio derbynnydd yr alwad i drosglwyddo eu harian o'u cyfrif gwreiddiol i'r cyfrif newydd yma i'w gadw'n ddiogel rhag y twyllwyr. Gall galwyr fel hyn fod yn ddarbwyllol ac argyhoeddiadol iawn ac felly gall ddrysu rhywun sy'n hŷn neu'n fregus mewn unrhyw ffordd.
Sicrhewch fod eich ffrindiau, teulu a chymdogion yr ydych chi'n meddwl a allai gael eu targedu gan dwyll o’r math yma yn gwybod i fod yn seiber gadarn, dweud na a rhoi'r ffôn i lawr ar y sgamwyr. #SeiberDdiogelHGC
| ||
Reply to this message | ||
|
|





