|
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin, a Heddlu Gogledd Cymru yn cynnal cymhorthfa yn Y Ganolfan, Nefyn ar gyfer preswylwyr y dref a Phen Llŷn o 13:00 tan 15:00 ar 21 Gorffennaf. Mae'r digwyddiad hwn yn rhan hanfodol o genhadaeth y CHTh i ddod â phlismona yn agosach at bobl yr ardal. Mi fydd yn galluogi pobl leol i drafod plismona yn eu cymuned nhw a chodi unrhyw bryderon sydd ganddyn nhw efo'r Comisiynydd a chynrychiolwyr o Heddlu Gogledd Cymru.
Mi fydd pawb sy'n bresennol yn cael 20 munud er mwyn siarad efo'r Comisiynydd, fydd hefyd yng nghwmni cynrychiolwyr o'i swyddfa ac o Heddlu Gogledd Cymru er mwyn rhoi'r cymorth gorau posib i'r cyhoedd. Mi fydd y Comisiynydd, swyddogion a staff yn cynnig cyfeirio pellach os oes modd ymdrin â mater mewn ffordd fwy priodol gan asiantaethau a sefydliadau eraill. Er mwyn sicrhau preifatrwydd, ni fydd unrhyw aelodau eraill o'r cyhoedd yn bresennol yn ystod y cyfarfod.
Sut i archebu lle
Os hoffech chi archebu lle am gyfarfod 20 munud efo Andy Dunbobbin, cysylltwch â swyddfa'r CHTh efo'ch enw, gwybodaeth gyswllt a'r hyn yr hoffech drafod yn ystod y cyfarfod, drwy:
E-bost: opcc@northwales.police.uk
Ffôn: 01492 805486
Post: Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Pencadlys yr Heddlu, Glan y Don, Bae Colwyn, LL29 8AW
Nodwch, mae'r apwyntiadau yn gweithio ar sail y cyntaf i'r felin, ac ni allwn ni sicrhau bod lle ar gyfer pawb. Os bydd sesiwn yn llawn, mi roddir gwybodaeth ynglŷn â sesiynau eraill. |