|
||
|
|
||
|
||
|
??Twyll Cludwyr ?? |
||
|
Rydym wedi gweld cynnydd yn yr adroddiadau am Dwyll Cludwyr ar draws Gogledd Cymru yn ddiweddar. Cafodd dros £21 miliwn ei ddwyn gan ddioddefwyr Twyll Cludwyr ar draws Cymru a Lloegr yn 2025 gyda cholledion o £118,940 yn cael eu riportio yng Ngogledd Cymru. ℹ️ Ni fydd banciau na'r Heddlu byth yn ffonio i ofyn i chi drosglwyddo arian nac yn anfon cludwyr i'ch cartref i gasglu cardiau, arian parod neu eitemau gwerthfawr eraill. ⚠️ Os ydych chi wedi derbyn galwad ffôn sydd ddim yn taro deuddeg, STOPIWCH! Rhowch y ffôn i lawr. ✅ Cysylltwch â'r sefydliad yn uniongyrchol gan ddefnyddio'r manylion cyswllt ar eu gwefan neu ohebiaeth swyddogol neu drwy ffonio 159 ar gyfer eich banc. Darllenwch fwy yma: https://www.reportfraud.police.uk/courierfraud2026 #SeiberDdiogelHGC #TwyllCludwyr
| ||
Reply to this message | ||
|
|





