|
||
|
|
||
|
||
|
??BYDDWCH YN SEIBER GADARN – Ystyriwch yn Ofalus Cyn Prynu Anifail Anwes Ar-lein ?? |
||
|
Rydym wedi derbyn adroddiadau yng Ngogledd Cymru am dwyllwyr yn postio hysbysebion ar-lein yn honni i fod yn gwerthu cŵn bach nad ydynt yn bodoli mewn gwirionedd, gan adael dioddefwyr allan o boced.
Yn ddiweddar, ymatebodd dioddefwr yng Ngogledd Cymru i hysbyseb am gi bach ar werth ar TikTok ac yn sydyn iawn symudodd y drafodaeth drosodd i WhatsApp. Honnodd y gwerthwr y byddai’n galw heibio hefo’r ci bach unwaith y byddai’r taliad wedi’i dderbyn. Perswadiwyd y dioddefwr i brynu cardiau rhodd Apple ac anfon codau’r talebau at y twyllwr fel taliad. Roedd cyfanswm y golled i’r dioddefwr yn fwy na £1,000.
Os ydych yn bwriadu prynu anifail anwes ar-lein, byddwch yn effro i’r arwyddion rhybudd.
🚩 Arwyddion Rhybudd ❌ Mae’r pris yn sylweddol is na phrisiau anifeiliaid anwes neu fridiau pedigri tebyg sy’n cael eu hysbysebu mewn mannau eraill. ❌ Mae’r gwerthwr yn gwrthod neu’n gwneud esgusodion i osgoi cyfarfod wyneb yn wyneb neu ganiatáu i chi weld yr anifail anwes. ❌ Mae’r sgwrs yn cael ei symud oddi ar y platfform yn gyflym (e.e. o TikTok, Facebook Marketplace neu Pets4Homes i WhatsApp, Telegram neu negeseuon testun). ❌ Rydych yn cael eich rhoi dan bwysau i dalu blaendal neu’r swm llawn cyn gweld yr anifail. Weithiau bydd y gwerthwr yn honni bod galw mawr am yr anifail anwes, gan awgrymu bod prynwyr eraill yn aros, er mwyn eich gorfodi i dalu’n gyflym. ❌ Gofynnir i chi dalu drwy ddulliau anarferol megis cardiau rhodd, trosglwyddiadau banc, arian digidol (cryptocurrency) neu apiau trosglwyddo arian. ❌ Mae’r gwerthwr yn gofyn am daliadau ychwanegol ar gyfer cludiant, yswiriant, cewyll, brechiadau neu gostau annisgwyl eraill. ❌ Delweddau wedi’u dwyn: Mae hysbysebion yn aml yn defnyddio lluniau generig neu wedi’u copïo o gŵn bach neu anifeiliaid anwes eraill. Gall chwiliad gwrthdro cyflym am ddelweddau ar Google ddatgelu a yw’r un llun yn cael ei ddefnyddio ar wefannau twyllodrus.
✅ Sut i Ddiogelu Eich Hun a Bod yn Seiber Gadarn. ✔ Gwnewch yn siŵr eich bod yn gweld y ci bach neu’r anifail anwes yn bersonol cyn gwneud unrhyw daliad. ✔ Ymwelwch â’r bridiwr neu’r gwerthwr yn eu cyfeiriad a gofynnwch i weld yr anifail gyda’i fam lle bo hynny’n bosibl. ✔ Defnyddiwch gerdyn credyd i wneud taliad lle bo hynny’n bosibl, gan y gall hyn ddarparu amddiffyniad ychwanegol i ddefnyddwyr. ✔ Gwiriwch gofnodion brechu, manylion y microsglodyn a manylion cofrestru’r bridiwr. ✔ Byddwch yn wyliadwrus o unrhyw un sy’n eich rhuthro i wneud penderfyniad neu daliad. ✔ Byddwch yn ofalus o drefniadau dosbarthu yn unig. Lle bo modd, casglwch yr anifail anwes eich hun. ✔ Peidiwch byth â thalu drwy gardiau rhodd neu dalebau. Ni fydd gwerthwyr dilys yn gofyn am daliad drwy Gardiau Rhodd Apple, cardiau Google Play, talebau Amazon na dulliau tebyg. ✔ Os nad yw rhywbeth yn teimlo’n iawn, cerddwch i ffwrdd.
#SeiberDdiogelHGC
| ||
Reply to this message | ||
|
|





