|
||
|
|
||
|
||
|
??Rhybudd Twyll Buddsoddi ?? |
||
|
Mae ffigurau newydd gan Heddlu Dinas Llundain yn datgelu bod dioddefwyr yn y DU wedi colli £879.8 miliwn i dwyll buddsoddi yn 2025 – sy'n cyfateb i £2.4 miliwn bob dydd neu £1,675 bob munud.
📈 Cafwyd mwy na 34,600 o adroddiadau y llynedd, sef cynnydd o 31% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol, gyda dioddefwyr yn colli £25,612 ar gyfartaledd yr un. Mewn llawer o achosion, roedd y colledion hyn yn cynrychioli cynilion pensiwn, cynilion oes neu fuddsoddiadau hirdymor.
Mae twyllwyr yn defnyddio'r canlynol yn gynyddol: ❌ Llwyfannau buddsoddi a masnachu ffug ❌ Gwefannau, brandiau a hunaniaeth wedi'u clonio o gwmnïau ariannol dilys ❌ Fideos a gynhyrchir gan ddeallusrwydd artiffisial (AI) ❌ Hysbysebion ar y cyfryngau cymdeithasol sy'n addo enillion afrealistig
💬 Dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd Oliver Little, o Ystafell Weithrediadau'r Heddlu Dinas Llundain: "Mae twyll buddsoddi yn parhau i gael effaith ddinistriol ar ddioddefwyr, gyda llawer yn colli symiau o arian sy'n newid bywydau. Mae troseddwyr yn defnyddio gwefannau sy'n edrych yn broffesiynol, tactegau gwerthu perswadiol a hyd yn oed brandio sydd wedi'i glonio o gwmnïau ariannol go iawn er mwyn ymddangos yn ddilys." "Rydym yn annog y cyhoedd i gymryd eu hamser, gwirio dilysrwydd unrhyw gyfleon buddsoddi a chael cyngor ariannol annibynnol cyn trosglwyddo unrhyw arian."
✅ Cyn buddsoddi, gwiriwch fod cwmni neu gynghorydd wedi'i awdurdodi drwy ddefnyddio Gwiriwr Cwmnïau'r FCA (FCA Firm Checker). ✅ Byddwch yn wyliadwrus o gyfleoedd buddsoddi digymell ac addewidion o enillion uchel. ✅ Cofiwch: os yw'n swnio'n rhy dda i fod yn wir, mae'n debyg ei fod.
📢 Gallwch roi gwybod am dwyll yma: www.reportfraud.police.uk
#SeiberDdiogelHGC
| ||
Reply to this message | ||
|
|





