🔐 Help us turn cyber curiosity into cyber capability for good / Helpwch ni i droi chwilfrydedd seiber yn allu seiber er daioni 🔐
|
||
|
|
||
|
||
|
?? Helpwch ni i droi chwilfrydedd seiber yn allu seiber er daioni ?? |
||
|
Oeddech chi'n gwybod fod 61% o hacwyr wedi dechrau cyn 16 oed, a bod 1 o bob 4 person ifanc yn eu harddegau wedi arbrofi gyda rhyw fath o drosedd seiber?
Mae gan lawer o'r bobl ifanc hyn dalent wirioneddol, chwilfrydedd, ac angerdd am dechnoleg. Gyda'r gefnogaeth gywir, gellir ailgyfeirio'r sgiliau hynny tuag at yrfaoedd cadarnhaol a gwerth chweil ym maes seiberddiogelwch.
🌟 Os ydych yn adnabod rhywun a allai fod mewn perygl o ddefnyddio ei sgiliau technegol yn y ffordd anghywir, neu sydd yn agos at groesi'r ffin i gyflawni trosedd seiber, ystyriwch wneud atgyfeiriad at Raglen Cyber Choices, yr ydym yn rhan ohoni yma yn Nhîm Troseddau Seiber Heddlu Gogledd Cymru.
Nid yw llawer o bobl ifanc yn sylweddoli y gall gweithgareddau megis defnyddio gwasanaethau booter, cael mynediad heb awdurdod i gyfrifon neu systemau, neu addasu systemau heb ganiatâd fod yn droseddau o dan Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990.
Mae Cyber Choices yn rhaglen genedlaethol sydd wedi'i chynllunio i helpu unigolion i ddeall y gwahaniaeth rhwng gweithgaredd seiber cyfreithlon ac anghyfreithlon, a defnyddio eu sgiliau technegol mewn ffordd gadarnhaol a chyfreithlon.
Pwy sy'n gymwys? ✅ Unrhyw un sy'n byw yn y DU ac sydd mewn perygl o gymryd rhan mewn trosedd seiber lefel isel, neu sydd eisoes yn gwneud hynny. ✅ Unrhyw un a allai elwa o ymyrraeth gynnar, addysg, mentora neu gefnogaeth. ✅ Unigolion sy'n dangos diddordeb mewn hacio, codio, diogelwch ar-lein, gemau cyfrifiadurol neu dechnoleg, lle mae pryder y gallai eu sgiliau gael eu defnyddio'n anghyfreithlon.
Gall atgyfeiriadau gael eu gwneud gan: Rhieni a gofalwyr Athrawon a gweithwyr addysg proffesiynol Gweithwyr ieuenctid Gweithwyr cymdeithasol Yr unigolyn ei hun Arwyddion i gadw llygad amdanynt ⚠️ Treulio llawer o amser ar-lein, yn enwedig yn hwyr yn y nos neu mewn fforymau hacio a chymunedau ar-lein. ⚠️ Brolio am "dynnu pobl oddi ar-lein", defnyddio gwasanaethau booter neu osgoi mesurau diogelwch. ⚠️ Mynediad anesboniadwy at sawl cyfrif ar-lein, asedau digidol neu ffynonellau incwm ar-lein. ⚠️ Meddu ar feddalwedd arbenigol, offer hacio neu VPNs heb ddiben cyfreithlon clir. ⚠️ Dangos diddordeb anarferol mewn cael mynediad i systemau cyfrifiadurol, eu haddasu neu osgoi eu mesurau diogelwch heb ganiatâd.
Pam atgyfeirio at Cyber Choices? ✅ Mae'n ataliol, nid yn gosbol Mae Cyber Choices yn ymyrraeth addysgol sydd wedi'i chynllunio i atal troseddu a chefnogi canlyniadau cadarnhaol. ✅ Yn helpu i atal cofnodion troseddol Gall ymgysylltu cynnar helpu unigolion i ddeall canlyniadau eu gweithredoedd cyn iddynt fynd i mewn i'r system cyfiawnder troseddol. ✅ Yn ailgyfeirio talent tuag at gyfleoedd cadarnhaol Anogir cyfranogwyr i ddilyn llwybrau cyfreithlon megis hacio moesegol, cystadlaethau seiber, cyfleoedd hyfforddi, prentisiaethau a gyrfaoedd ym maes seiberddiogelwch. ✅ Yn amddiffyn pobl ifanc a phobl fregus Mae'n darparu cefnogaeth, mentora ac arweiniad cyn i benderfyniadau gwael ar-lein gael canlyniadau parhaol. ✅ Yn codi ymwybyddiaeth o ffiniau cyfreithiol Mae'n helpu unigolion i ddeall deddfwriaeth seiber ac effaith troseddau seiber yn y byd go iawn. ✅ Yn datblygu sgiliau digidol gwerthfawr Mae'n annog datblygiad diogel a moesegol sgiliau technegol drwy gyfleoedd cyfreithlon. ✅ Yn lleihau niwed i ddioddefwyr a chymunedau Mae atal troseddau seiber yn golygu bod llai o unigolion, busnesau a gwasanaethau cyhoeddus yn dioddef canlyniadau ymosodiadau seiber. ✅ Yn creu canlyniadau cadarnhaol hirdymor Gall atgyfeiriad heddiw arwain at yrfa yn y dyfodol ym maes seiberddiogelwch, technoleg neu arloesedd digidol.
Beth sy'n digwydd ar ôl atgyfeiriad? Mae Cyber Choices yn rhaglen gefnogol ac anfeirniadol. Mae swyddogion fel arfer yn ymgysylltu mewn dillad eu hunain ac yn canolbwyntio ar addysg, mentora, diogelu a helpu unigolion i adnabod cyfleoedd cadarnhaol i ddatblygu eu sgiliau. Gall sgwrs syml heddiw atal troseddu yn y dyfodol a helpu i lunio dyfodol llwyddiannus.
Ydych chi'n adnabod myfyriwr, chwaraewr gemau cyfrifiadurol, codwr neu frwdfrydig technoleg a allai fod mewn perygl o groesi'r ffin i weithgarwch anghyfreithlon? Cysylltwch hefo ni i wneud atgyfeiriad heddiw.
🔗 Dysgwch fwy am Cyber Choices yma: Teen hackers tell BBC how police are helping them use their skills for good - BBC News
#SeiberDdiogelHGC
| ||
Reply to this message | ||
|
|





