|
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd (CHTh) Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin yn cynnal cymhorthfa yn Neuadd Cymuned a Chyn Filwyr Benllech, lle fydd cynrychiolwyr o Heddlu Gogledd Cymru yn ymuno er mwyn helpu ymdrin ag unrhyw bryderon plismona sydd gan breswylwyr Sir Fôn. Mae’r gymhorthfa’n digwydd ar 23 Medi rhwng 1pm a 3pm, ac mi fydd yn helpu cyflawni cenhadaeth y CHTh i bontio’r bwlch rhwng y cyhoedd a’r heddlu.
Mi fydd pawb sy'n bresennol yn cael 20 munud er mwyn siarad yn bersonol efo'r Comisiynydd, fydd hefyd yng nghwmni cynrychiolwyr o'i swyddfa ac o Heddlu Gogledd Cymru er mwyn rhoi'r cymorth gorau oll i'r cyhoedd. Mi fydd y Comisiynydd, swyddogion a staff yn cynnig cyfeirio pellach os oes modd ymdrin â phroblem mewn ffordd fwy priodol gan asiantaethau a sefydliadau eraill. Er mwyn sicrhau preifatrwydd, ni fydd unrhyw aelodau eraill o'r cyhoedd yn bresennol yn ystod y cyfarfod.
Sut mae'n gweithio
Mi fydd y CHTh ym Menllech yng nghwmni staff o'i dîm, ac mi fydd Heddlu Gogledd Cymru yn helpu hwyluso'r cyfarfodydd a chymryd nodiadau os oes angen. Mae cymorthfeydd yn cael eu cynnal drwy apwyntiad yn unig, er mwyn sicrhau bod y materion sy'n cael eu trafod yn ymwneud â phlismona, troseddau neu ddiogelwch cymunedol, ac er mwyn sicrhau bod y CHTh yn cael gwybodaeth lawn ynglŷn â’r mater cyn y cyfarfod.
Sut i archebu lle
Os hoffech chi archebu lle am gyfarfod 20 munud efo Andy Dunbobbin, cysylltwch â swyddfa'r CHTh efo'ch enw, manylion cyswllt a'r hyn yr hoffech drafod yn ystod eich cyfarfod, drwy:
E-bost: opcc@northwales.police.uk
Ffôn: 01492 805486
Post: Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Pencadlys yr Heddlu, Glan y Don, Bae Colwyn, LL29 8AW
Nodwch, mae nifer yr apwyntiadau ar gael yn gyfyngedig ac yn gweithio ar sail y cyntaf i'r felin. Ni allwn ni sicrhau bod lle ar gyfer pawb. Os bydd sesiwn yn llawn, mi roddir gwybodaeth ynglŷn â sesiynau eraill. |