|
||
|
|
||
|
||
|
??RHYBUDD TWYLL MANWERTHU: SGÂM YCHWANEGIADAU CARDIAU RHAGDALUEDIG ?? |
||
|
Mae manwerthwyr yn cael eu rhybuddio am dwyll sy'n targedu busnesau sy'n gwerthu neu'n prosesu ychwanegiadau credyd i gardiau rhagdaledig a chodau bar cardiau rhagdaledig.
Gall dwyllwyr ofyn am nifer o ychwanegiadau credyd i gardiau a cheisio drysu'r aelod staff yn fwriadol yn ystod y trafodiad. Drwy ddefnyddio dulliau gwahanol i dynnu sylw a chamarwain aelodau staf, maent yn ceisio gadael y siop gyda arian wedi'u llwytho ar y cardiau rhagdaledig heb wneud unrhyw taliad. Gall hyn hefyd gynnwys cais am daliad arian parod.
Arwyddion Rhybudd: • Ceisiadau am nifer o ychwanegiadau credyd i gardiau rhagdaledig neu ychwanegiadau o werth uchel. • Ymdrechion i frysio, tynnu sylw neu roi pwysau ar staff yn ystod y trafodiad. • Dryswch ynghylch dulliau talu, derbynebau neu gyfansymiau trafodion. • Honiadau bod taliad eisoes wedi'i gwneud pan nad yw wedi'i dderbyn mewn gwirionedd. • Ceisiadau i ganslo neu newid trafodion ar ôl i'r cardiau gael eu actifadu.
Diogelwch Eich Busnes: ✅ Sicrhewch fod taliad wedi'i dderbyn yn llwyddiannus cyn rhannu cardiau sydd wedi'u actifadu neu ddarparu unrhyw daliad arian parod. ✅ Dilynwch bolisïau a gweithdrefnau'r cwmni ar gyfer trafodion cardiau rhagdaledig bob amser. ✅ Stopiwch a gwiriwch y trafodiad os ydych yn teimlo eich bod yn cael eich brysio neu os ydych yn ansicr. ✅ Gofynnwch am gymorth gan oruchwyliwr neu gydweithiwr os oes gennych bryderon. ✅ Rhowch wybod i'r Heddlu am unrhyw ddigwyddiadau amheus a chadwch unrhyw luniau CCTV, derbynebau a chofnodion trafodion sydd ar gael.
Rhannwch y rhybudd yma gyda'ch holl gydweithwyr ac aelodau o staff i helpu i atal colledion ariannol ac i ddiogelu eich busnes rhag twyll.
#SeiberDdiogelHGC
| ||
Reply to this message | ||
|
|





