|
||
|
|
||
|
||
|
??BYDDWCH YN SEIBER-GADARN - Gwyliwch allan am Sgamiau Dynwared yr Heddlu ?? |
||
|
Rydym wedi derbyn adroddiadau am dwyllwyr yn dynwared swyddogion yr Heddlu Metropolitanaidd ac yn honni eu bod yn ymchwilio i gyfrifon arian cyfred digidol (cryptocurrency) dioddefwyr.
Mewn digwyddiad diweddar, honnodd y twyllwr ei fod yn Brif Dditectif Arolygydd o'r Heddlu Metropolitanaidd ai fod yn cysylltu â derbynnydd yr alwad ynghylch problemau honedig gyda'i gyfrif arian cyfred digidol. Cafodd yr alwad ffôn ei dilyn gan e-bost sbam a oedd wedi ei gynllunio i wneud y twyll swnio’n fwy credadwy. Yn ffodus, fe wnaeth derbynnydd yr alwad adnabod y rhybuddion, a daeth yr alwad i ben a ni wnaeth ymateb i'r e-bost dilynol o gwbwl.
Mae troseddwyr yn aml yn defnyddio awdurdod ac ymdeimlad o frys i ennill ymddiriedaeth. Mae arwyddion rhybudd cyffredin i gadw llygad amdanynt yn cynnwys: ✅ Cyswllt annisgwyl ynghylch buddsoddiadau, arian cyfred digidol neu gyfrifon banc. ✅ Ceisiadau am wybodaeth bersonol neu ariannol. ✅ Pwysau i weithredu'n gyflym. ✅ Negeseuon e-bost sy'n cynnwys dolenni, atodiadau neu geisiadau i wirio manylion cyfrif.
Os byddwch yn derbyn galwad o'r fath: • Gorffennwch yr alwad ar unwaith. • Peidiwch â rhannu unrhyw wybodaeth bersonol nac ariannol. • Peidiwch â chlicio ar unrhyw ddolenni mewn negeseuon e-bost dilynol. • Gwiriwch ddilysrwydd y cyswllt drwy sianeli swyddogol. • Rhowch wybod am weithgarwch amheus i Report Fraud.
Cofiwch: Ni fydd swyddogion heddlu dilys byth yn rhoi pwysau arnoch i drosglwyddo arian nac i ddatgelu gwybodaeth sensitif am gyfrifon. Os nad yw rhywbeth yn teimlo'n iawn, gwrandewch ar eich greddf a gwiriwch yn annibynnol cyn cymryd unrhyw gamau.
#SeiberDdiogelHGC
| ||
Reply to this message | ||
|
|





