|
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd (CHTh) Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin, wedi dechrau podlediad misol newydd, sydd efo’r nod o ddod â phlismona’n agosach at breswylwyr Gogledd Cymru. Materion Gogledd Cymru gydag Andy Dunbobbin yn canolbwyntio ar y blaenoriaethau a gyhoeddodd yn ei Gynllun Heddlu a Throsedd ar gyfer y rhanbarth.
Wedi’i ddatblygu yn dilyn ymgynghoriad efo preswylwyr, sefydliadau ac asiantaethau partner, mae’r Cynllun Heddlu a Throsedd yn gosod y blaenoriaethau strategol ar gyfer plismona a diogelwch cymunedol ar draws y rhanbarth. Mae hefyd yn amlinellu’r materion allweddol mae’r Comisiynydd eisiau’r Prif Gwnstabl a’r Heddlu lleol ganolbwyntio arnyn nhw hyd at 2028. Mae blaenoriaethau Mr Dunbobbin yn cynnwys cryfhau presenoldeb plismona cymdogaethau lleol, cefnogi dioddefwyr, cymunedau a busnesau, a hyrwyddo system cyfiawnder troseddol deg ac effeithiol.
Mae’r bennod gyntaf o Materion Gogledd Cymru gydag Andy Dunbobbin yn cyflwyno gwrandawyr i’r Comisiynydd, gan edrych ar ei fywyd cynnar cyn dilyn ei daith i wasanaeth cyhoeddus a’i etholiad cyntaf fel CHTh Gogledd Cymru yn 2021. Mae’r bennod hefyd yn myfyrio ar ei ail-etholiad yn 2024 a’i rôl barhaus fel llais y cyhoedd ym mhlismona ar draws Gogledd Cymru.
Mi all preswylwyr wylio pob pennod o Materion Gogledd Cymru gydag Andy Dunbobbin ar YouTube ac ar sianeli cyfryngau cymdeithasol Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd. Mi all gwrandawyr hefyd dderbyn diweddariadau a chael penodau newydd yn uniongyrchol i’w blwch e-bost drwy gofrestru am gylchlythyr y Comisiynydd.
Mi fydd pennod y mis nesaf yn canolbwyntio ar droseddau cefn gwlad. Mi fydd pob pennod misol yn canolbwyntio ar thema allweddol ynglŷn â phlismona, efo cyfweliadau, sgyrsiau ac ymweliadau â sefydliadau ac unigolion ysbrydoledig sy’n helpu lleihau troseddau, helpu dioddefwyr a rhoi help i gymunedau ar draws y rhanbarth.
I wrando ar y podlediad, ewch ar: https://www.youtube.com/@SCHThGCOPCCNW |