⚠️ ANGLESEY COUNCIL ISSUE SCAM ALERT: FAKE PARKING FINE TEXT MESSAGES / RHYBUDD SGAM GAN GYNGOR SIR YNYS MÔN: NEGESEUON TESTUN FFUG AM DDIRWY PARCIO ⚠️
|
||
|
|
||
|
||
|
??RHYBUDD SGAM GAN GYNGOR SIR YNYS MÔN: NEGESEUON TESTUN FFUG AM DDIRWY PARCIO ?? |
||
|
Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi cyhoeddi rhybudd brys ynghylch y negeseuon testun twyllodrus sy'n gofyn i dderbynwyr dalu dirwy parcio drwy glicio ar ddolen sydd wedi'i chynnwys yn y neges.
Pwyntiau allweddol i'w cofio: ⛔ Nid yw'r Cyngor BYTH yn cyhoeddi Hysbysiadau Tâl Cosb (PCNs) drwy neges destun nac e-bost. 🚗 Dim ond drwy eu gosod yn gorfforol ar gerbydau y mae Swyddogion Gorfodi Sifil y Cyngor yn cyhoeddi Hysbysiadau Tâl Cosb. 🔗 Peidiwch â chlicio ar unrhyw ddolenni na gwneud unrhyw daliadau drwy'r negeseuon testun yma. 📞 Os nad ydych yn siŵr a yw neges yn ddilys, cysylltwch â'r sefydliad yn uniongyrchol gan ddefnyddio rhif ffôn dibynadwy neu drwy eu gwefan swyddogol. Peidiwch â defnyddio'r manylion cyswllt a ddarperir yn y neges.
🚩 Arwyddion rhybudd i edrych allan amdanynt ❌ Cyfeiriad gwe amheus
⏰ Pwysau a brys
✍️ Camgymeriadau sillafu a gramadeg
🤝 Rhannwch y rhybudd yma gyda theulu, ffrindiau a chymdogion er mwyn helpu i ddiogelu ein cymunedau rhag y sgam yma. Er bod y negeseuon penodol yma’n dynwared Cyngor Sir Ynys Môn, gall sgamiau tebyg ymddangos yn unrhyw ardal.
#SeiberDdiogelHGC
| ||
Reply to this message | ||
|
|





