🚨 CRITICAL SECURITY ALERT FOR BUSINESSES : PHP Vulnerabilities (CVE-2026-109618 & CVE-2026-109619) / RHYBUDD DIOGELWCH CRITIGOL AR GYFER BUSNESAU: Gwendidau PHP (CVE-2026-109618 a CVE-2026-109619) 🚨
|
||
|
|
||
|
||
|
?? RHYBUDD DIOGELWCH CRITIGOL AR GYFER BUSNESAU: Gwendidau PHP (CVE-2026-109618 a CVE-2026-109619) ?? |
||
|
Mae'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) yn annog pob sefydliad yn y DU i gymryd camau ar unwaith i ddiweddaru systemau sy'n defnyddio PHP er mwyn mynd i'r afael â mater diogelwch critigol a allai ganiatáu gweithredu cod o bell gan ymosodwr heb ddilysu ar weinyddion gwe yr effeithir arnynt.
⚠️ Lle nad yw lliniaru'r risg ar unwaith yn ymarferol, dylai sefydliadau ystyried tynnu'r system oddi ar-lein hyd nes y gellir gweithredu mesurau lliniaru llawn.
Dylai sefydliadau: 1. Nodi systemau sy'n rhedeg unrhyw fersiwn o PHP ar draws eu seilwaith, gan roi blaenoriaeth i systemau sy'n wynebu'r rhyngrwyd. 2. Monitro systemau PHP sy'n wynebu'r rhyngrwyd am unrhyw weithgarwch maleisus. 3. Cadw llygad ar ganllawiau swyddogol PHP: https://www.php.net/index.php 4. Gosod diweddariadau PHP cyn gynted ag y byddant ar gael. 5. Monitro'n barhaus am ddiweddariadau diogelwch gan werthwyr meddalwedd, gan gynnwys offer a gwasanaethau a all gynnwys PHP fel rhan o'u pecynnau.
📖 Darllenwch y manylion llawn, y dadansoddiad technegol a'r camau lliniaru ar wefan yr NCSC: 🔗 https://www.ncsc.gov.uk/news/critical-security-issue-affecting-php
Rhannwch gydag unrhyw berchnogion busnes rydych yn eu nabod er mwyn sicrhau eu bod yn ymwybodol.
#SeiberDdiogelHGC | ||
Reply to this message | ||
|
|




