⚠️ Beware of fraudsters impersonating police officers / Gwyliwch allan am dwyllwyr sy’n esgus bod yn swyddogion yr heddlu. ⚠️
|
||
|
|
||
|
||
|
?? Gwyliwch allan am dwyllwyr sy’n esgus bod yn swyddogion yr heddlu. ?? |
||
|
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi derbyn adroddiadau’n ddiweddar am dwyllwyr yn dynwared swyddogion yr heddlu. Maen nhw’n honni eu bod yn ymchwilio i gyfrifon arian ‘crypto’ dioddefwyr, neu fod angen diogelu cyfrif banc y dioddefwr oherwydd bod unigolyn o dan amheuaeth yn y ddalfa.
Mewn digwyddiad diweddar, honnodd y twyllwr ei fod yn Dditectif Brif Arolygydd o’r Heddlu Metropolitan, oedd yn cysylltu ynglŷn â phroblemau honedig gyda chyfrif arian crypto’r dioddefwr. Ar ôl y sgwrs ffôn, mi anfonwyd neges e-bost sbam efo’r nod o wneud i’r twyll ymddangos yn ddilys. Yn ffodus, sylwodd yr aelod o’r cyhoedd ar arwyddion o dwyll, rhoddodd y ffôn i lawr ac ni ymatebodd i’r neges e-bost a ddilynodd.
Mae troseddwyr yn aml yn manteisio ar awdurdod a natur brys y sefyllfa er mwyn ennill ymddiriedaeth.
Dyma rai arwyddion rhybudd cyffredin: ✅ Cyswllt annisgwyl ynglŷn â buddsoddiadau, arian crypto neu gyfrifon banc. ✅ Ymgais i gael manylion personol neu ariannol. ✅ Rhoi pwysau arnoch chi i weithredu’n gyflym. ✅Negeseuon e-bost sy’n cynnwys dolenni, atodiadau neu geisiadau i ddilysu manylion cyfrifon.
Os ‘da chi’n derbyn galwad o'r fath: · Rhowch y ffôn i lawr ar unwaith. · Peidiwch â rhoi unrhyw wybodaeth bersonol nag ariannol. · Peidiwch â chlicio ar unrhyw ddolenni mewn negeseuon e-bost sy’n dilyn. · Dilyswch y cyswllt drwy sianeli swyddogol. · Riportiwch unrhyw weithgarwch amheus i Report Fraud.
Cofiwch: ni fydd swyddogion heddlu go iawn yn eich ffonio chi na’n rhoi pwysau arnoch chi i drosglwyddo arian, nac i ddatgelu manylion personol neu ariannol sensitif. Os nad ydy rhywbeth yn teimlo’n iawn, ymddiriedwch yn eich greddf a dilyswch yn annibynnol cyn gweithredu.
#SeiberDdiogelHGC
| ||
Reply to this message | ||
|
|





