Knife Amnesty 16th - 22nd November 2026
|
||
|
|
||
|
||
|
Amnest Cyllyll 16eg - 22ain Tachwedd 2026 |
||
|
Yr wythnos hon (16eg – 22ain Tachwedd) mae Heddlu Gogledd Cymru yn cymryd rhan yn Operation Sceptre, yr wythnos genedlaethol o weithredu i fynd i'r afael â throseddau cyllyll a chael gwared ar lafnau diangen o'n cymunedau. Er mwyn helpu i gadw ein cymdogaethau'n ddiogel, mae biniau amnest cyllyll pwrpasol ar gael ledled Gogledd Cymru, sy'n caniatáu i drigolion gael gwared ar gyllyll a nwyddau llafnog diangen yn ddiogel, yn gyfreithlon ac yn gwbl ddienw – heb unrhyw gwestiynau. Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref sy'n Cymryd Rhan : Gallwch chi gael gwared ar gyllyll diangen yn y canolfannau ailgylchu canlynol ar draws y rhanbarth. Bangor, Caernarfon, Harlech, Dolgellau, Pwllheli Sut i Gludo Eitemau yn Ddiogel: Adrodd Pryderon: Os oes gennych bryderon am rywun yn cario cyllell neu os ydych yn gwybod ble mae arfau'n cael eu storio, rhowch wybod i Heddlu Gogledd Cymru drwy ffonio 101, neu cysylltwch â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111. | ||
Reply to this message | ||
|
|




