🚨 SCAM ALERT: Fraudsters Impersonating North Wales Police Cybercrime Officers / RHYBUDD SGAM: Twyllwyr yn Dynwared Swyddogion Tim Troseddau Seiber Heddlu Gogledd Cymru 🚨
|
||
|
|
||
|
||
|
??RHYBUDD SGAM: Twyllwyr yn Dynwared Swyddogion Tim Troseddau Seiber Heddlu Gogledd Cymru ?? |
||
|
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymwybodol o adroddiadau am dwyllwyr yn esgus bod yn swyddogion Tim Troseddau Seiber Heddlu Gogledd Cymru, gan honni eu bod wedi’u lleoli yn Nolgellau, er mwyn dwyn arian cyfred digidol (cryptocurrency). Mae o leiaf dau ddioddefwr posibl wedi cael eu targedu yr wythnos yma. Sut mae'r sgam yn gweithio 📞 Yr Alwad Mae twyllwr yn cysylltu â chi gan honni i fod yn swyddog heddlu o’r Tim Troseddau Seiber ac yn dweud bod rhywun yn y ddalfa ar amheuaeth o ddwyn arian cyfred digidol. ⚠️ Y Stori Maent yn honni eich bod wedi cael eich adnabod fel rhywun sydd mewn perygl o golli eich arian cyfred digidol. 💰 Y Twyll Maent yn ceisio rhoi pwysau arnoch i "ddiogelu" eich arian drwy ei drosglwyddo drwy borth twyllodrus sy'n cael ei reoli gan y twyllwyr a bydd eich arian yn cael ei ddwyn. Cofiwch 🚔 Ni fydd Heddlu Gogledd Cymru, nac unrhyw heddlu arall, BYTH yn cysylltu â chi'n annisgwyl i ofyn i chi drosglwyddo, symud neu ddiogelu eich arian cyfred digidol. ❌ Peidiwch byth â throsglwyddo arian cyfred digidol na rhannu manylion eich waled yn dilyn galwad ffôn, neges destun, e-bost neu gyswllt ar y cyfryngau cymdeithasol o ganlyniad i gyswllt annisgwyl. 📱 Os byddwch yn derbyn galwad amheus yn honni i fod gan yr heddlu: • Rhowch y ffôn i lawr ar unwaith. • Cysylltwch â'r heddlu drwy rif swyddogol megis 101 i wirio dilysrwydd yr alwad. • Arhoswch o leiaf 5 i 10 munud cyn ffonio rhif swyddogol (neu defnyddiwch ffôn gwahanol os oes modd), oherwydd gall twyllwyr gadw llinellau ffôn agored ar linellau tir er mwyn efelychu tôn deialu dilys a gwneud i chi gredu eich bod wedi cysylltu â rhif swyddogol. 🔄 Rhannwch y rhybudd yma i helpu i ddiogelu ffrindiau, teulu ac unrhyw un sy'n berchen ar neu'n buddsoddi mewn arian cyfred digidol. #SeiberDdiogelHGC
| ||
Reply to this message | ||
|
|





