|
O heddiw, mi anogir pobl ledled Gogledd Cymru i leisio’u barn am ddyfodol plismona, wrth i Gomisiynydd Heddlu a Throsedd (CHTh) y rhanbarth gychwyn ei arolwg praesept plismona.
Mi gynhelir yr ymgynghoriad hyd at 21 Rhagfyr, gan roi cyfle i breswylwyr ddylanwadu ar y ffordd caiff plismona ei ariannu ar draws y rhanbarth. Mi fydd hefyd yn helpu i lywio penderfyniadau fydd yn effeithio ar y gwasanaethau gall Heddlu Gogledd Cymru ddarparu yn y blynyddoedd i ddod.
Mi ariannir Heddlu Gogledd Cymru’n rhannol gan Lywodraeth y DU, gyda’r gweddill yn dod drwy elfen blismona’r Dreth Gyngor. Pob blwyddyn, mae’n rhaid i’r CHTh ystyried barn y cyhoedd cyn gwneud argymhellion ar lefel y praesept sy’n cyllido plismona‘r rheng flaen, plismona’r cymdogaethau, gwaith atal troseddau a chymorth ar gyfer dioddefwyr.
O dan y faner ‘Eich Llais, Eich Heddlu, Eich Arian’, mi ofynnir i breswylwyr rannu eu barn ynglŷn â pha lefel o fuddsoddiad maen nhw’n credu sy’n angenrheidiol er mwyn cynnal a datblygu gwasanaethau plismona ledled Gogledd Cymru.
Mi all union swm y Praesept a gaiff ei osod newid yn ddibynnol ar yr arian y darperir gan Lywodraeth y DU. Mi gyhoeddir yr ariannu yn ddiweddarach eleni, ond nid ydy ar gael wrth gynnal yr arolwg. Mae’r dewisiadau yn yr arolwg fel a ganlyn:
• 34c fesul wythnos (£17.50 fesul blwyddyn) – Bydd angen dod o hyd i o gwmpas £0.6 miliwn mewn toriadau.
• 38c fesul wythnos (£19.50 fesul blwyddyn) – Mae hyn yn cynrychioli safle sefydlog (dim newid)
• 41c fesul wythnos (£21.50 fesul blwyddyn) – Byddai hyn yn caniatáu twf o tua £0.6 miliwn
• 45c fesul wythnos (£23.50 fesul blwyddyn) - Byddai hyn yn caniatáu twf o tua £1.26 miliwn
Mae’r arolwg hefyd yn gofyn i breswylwyr ym mha feysydd y bydden nhw'n hoffi gweld unrhyw gyllid ychwanegol yn cael ei fuddsoddi, ynghyd â chwestiynau ar ymddiriedaeth mewn plismona lleol, pe bai swyddogion yn ymdrin â’r problemau sydd bwysicaf yn eu cymunedau nhw, a phe gellir dibynnu ar yr heddlu pan fo angen. Cymerwch ran yn yr arolwg ar-lein:
Cymraeg: www.surveymonkey.com/r/VTX8Q3J
Saesneg: www.surveymonkey.com/r/3QRTT9T
|