🚨 SCAM WARNING: Fraudsters impersonating Barclays and the Financial Conduct Authority (FCA) / 🚨 RHYBUDD SGAM: Twyllwyr yn dynwared Barclays a'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA)
|
||
|
|
||
|
||
|
?? RHYBUDD SGAM: Twyllwyr yn dynwared Barclays a'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA). |
||
|
Dros y dyddiau diwethaf, rydym wedi gweld twyllwyr yn defnyddio tacteg ‘dau alwad ffôn’ mewn ymgais i dwyllo dioddefwyr allan o ddegau o filoedd o bunnoedd. Mae'r dull yma eisoes wedi arwain at golled o £33,000 yng Ngogledd Cymru. Sut mae'r sgam yn gweithio: ☎️ Cam 1: Yr Alwad "Banc" Byddwch yn derbyn galwad gan rywun sy'n honni ei bod yn gweithio i Adran Dwyll Barclays. Bydd yn dweud bod trafodiad amheus o werth uchel wedi'i wneud ar eich cyfrif, er enghraifft pryniant o oriawr Rolex ar eBay. ☎️ Cam 2: Yr Alwad "FCA" Er mwyn gwneud i'r sgam ymddangos yn ddilys, bydd ail berson yn cysylltu â chi gan honni ei fod yn cynrychioli'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA). ⚠️ Cam 3: Y Twyll O dan esgus "diogelu" eich cyfrif neu gadarnhau eich hunaniaeth, byddant yn gofyn i chi gadarnhau manylion personol a manylion bancio. Gall hyn roi'r gallu iddynt gael mynediad at eich cyfrifon a dwyn eich arian. Sut i amddiffyn eich hun: ✅ Peidiwch byth ag ymddiried mewn ID galwr yn unig - gall twyllwyr ffugio rhifau ffôn yn hawdd. ✅ Rhowch y ffôn i lawr ar unwaith - ni fydd eich banc na'r FCA byth yn gofyn i chi ddatgelu manylion diogelwch sensitif, PINau na throsglwyddo arian i "gyfrif diogel" dros y ffôn. Mae'r FCA yn rheoleiddio cwmnïau gwasanaethau ariannol, nid cyfrifon banc unigol defnyddwyr, felly ni fyddant byth yn ffonio aelod o'r cyhoedd ynghylch trafodiad personol. ✅ Gwiriwch yn annibynnol - os ydych yn poeni am eich cyfrif, gorffennwch yr alwad ac arhoswch o leiaf 5 munud cyn ffonio'n ôl (gall twyllwyr weithiau gadw llinellau ffôn ar agor am ychydig funudau), neu defnyddiwch ffôn wahanol os oes modd. Ffoniwch y rhif ar gefn eich cerdyn banc neu deialwch 159 i gael eich cysylltu'n uniongyrchol â thîm twyll dilys eich banc. 📢 Rhannwch y neges yma i helpu i ddiogelu eich ffrindiau, eich teulu ac aelodau bregus o'ch cymuned. Gall codi ymwybyddiaeth helpu i atal rhywun rhag dod yn ddioddefwr nesaf y twyllwyr hyn. #SeiberDdiogelHGC #SeiberGadarnHGC
| ||
Reply to this message | ||
|
|





